Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

buddiol ac ymarferol ddigon yn y bennod olaf o'r llyfr hwn tuag at symleiddio'r ffordd o drin y ddyled wladol gyda'r ystyriaethau uchod mewn golwg. Dylent gael ystyriaeth fanwl. Ond prin eu bod yn mynd at waelod y broblem. Ni ddaw trefn o adael i bethau gyrraedd eu lefel yn naturiol. Ni ellir cael trefn chwaith drwy ystrywiau anuniongyrchol megis codi neu ostwng llog, neu drwy gyllideb sy'n codi mwy na digon, neu lai na digon. Rhaid gwneud trefn trwy reolaeth uniongyrchol a goleuedig. Mewn gair, trwy sosialaeth y daw iachawdwriaeth. E. CADVAN JONES The Black Four Master, and oth.er stories, gan Hugh V. Gill. Llyfrau'r Dryw. 7 /6. O ddarllen hanes yr awdur ar gas y llyfr hwn, ceir iddo gael bywyd o amrywiaeth diddorol. Nid yw amrywiaeth ynddo'i hun yn rhaid i unrhyw awdur i weld bywyd yn ei amlochredd. Mae un yn gweld mwy ar dair ceiniog wen ac yn cael mwy o fudd ohoni nag a wêl un arall ar goron fawr. Gwelodd Kate Roberts gymhlethdod byd a byw o fewn caerau cymharol gyfyng ardal arbennig yng Ngogledd Cymru. Ond amheuthun wedi'r cwbl ydyw cael cyfrol o storïau sy'n symud yn naturiol o foethusrwydd trofannau crasboeth i foelni Eryri, o afonydd Oapajos a Xingu i Feddgelert a Glaslyn, o ynys- oedd yr Aran yn Iwerddon i furddun yn Eithinog. Nid ehangder daearyddol yn unig sydd yma. Ceir adnabydd- iaeth gynnes ei gydymdeimlad o ddwsinau o wahanol bobl llongwr eiddigeddus o'i orchestion, dyn du unllygeidiog na wyr neb ddim amdano, Cymro wedi lladd ei wraig, arglwydd a thywysoges o'r hen fyd. A hyd yn oed lwynoges sy'n sumbol o bob mam a'i llwynog bach doit a adewir yn amddifad. Ond nid amrywiaeth na lle na phobl sy'n taro dyn fwyaf, ond yr amrywiaeth arddull neu o leiaf ei ddwy ffordd o drin ei bynciau. Mae fel petai wedi llyncu Wordsworth a Coleridge efo'i gilydd. Ar y naill law mae'n ceisio gwneud yr adnabyddus, cynefin, yn hudol oruwchnaturiol, ac ar y llaw arall yn ceisio perswadio dyn fod yr arall fydol wrth ei benelin. Mae cyfarwydd o longwr fel un W. W. Jacobs yn adrodd chwedl y brenin a'i ferch