Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyma lyfr i bob Aelwyd, Ysgol a Choleg Ail argraffiad yn barod. Dros 1,100 o dudalennau Y Bywgraffìadur Cymreig dan nawdd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion Dywed y Prifathro Syr Emrys Evans- Dyma un o'r gweithiau pwysicaf a welodd Cymru erioed. Dylai copi fod ymhob ysgol dylai pob Cymro gael copi iddo'i hun. Cewch hwyl a gwybodaeth ddihysbydd." Pris, 42/- Gellir ei gael gan unrhyw lyfrwerthwr neu gan SYR JOHN CECIL-WILLIAMS, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 20 Bedford Square, Llundain, W.C.l Ffilmiau a Nodiadau Gall Athrawon Dosbarthiadau gael benthyg Ffilmiau, a Nodiadau arnynt, ar Gymru a Hawliau Dyn o'r Swyddfa ym Mangor. Y mae gan Gyfarwyddwr Addysg Allanol Coleg y Brifysgol yntau nifer o Ffilmiau a Nodiadau at wasanaeth Athrawon yr un modd. Anfonwch at C. E. Thomas, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor. neu at Alun Llywelyn-Wilhams, Cyfarwyddwr Dosbarthiadau Allanol, Coleg y Brifysgol, Bangor.