Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. XIII GWANWYN 1957 RÉtfF NODIADAU'R GOLYGYDD^ YN 1953, yr oeddem yn dathlu Jiwbili'r WEA; eleni, yr ydym yn dathlu Jiwbili'r WEA Gymreig. Sefydlwyd Rhanbarth Cymru yn Ionawr 1907, ond yr oedd Cangen y Barri mewn bod er mis Tachwedd. Edrychwn ymlaen yn awr at weld cyhoeddi llyfr A. H. Dodd ar hanes yr hanner canrif-cyn diwedd y flwyddyn hon, gobeithio. Credaf mai yn 1909 y clywais gyntaf am y WEA. Ar ddiwedd anerchiad Tom Jones i Wyl Lafur y Chwarelwyr ym mis Mai, cyflwynodd Silyn fi iddo ar y stryd; dywedodd wrtho fod gennyf lyfr Cymraeg ar bynciau cymdeithasol bron yn barod i'w gyhoeddi, Y Werin ai'i Theyrnas, a chynigiodd yntau ddarllen drwyddo mewn llawysgrif, a rhoddi pob cynhorthwy a allai imi. Soniodd wrth Silyn a minnau am y WEA, ac anfonodd lenydd- iaeth inni ein dau i'w rhannu yn ardaloedd y chwarelau. Pan sefydlwyd dosbarthiadau J. F. Rees a Robert Richards o dan Goleg Bangor, nid oedd gennyf gysylltiad neilltuol â hwy, ond penododd Undeb y Chwarelwyr R. T. Jones a minnau i'w gyn- rychioli ar Bwyllgor Ysgol Haf Prifysgolion y Gogledd a gyn- haliwyd ym Mangor am rai blynyddoedd. John Thomas, o Abercynon (Dr John Thomas, Manceinion, yn awr), oedd ysgrifennydd WEA Cymru o 1911 hyd 1919. Wedi iddo ymddiswyddo, galwodd Percy Watkins fy sylw, mewn llythyr ar fater arall, at hysbysiad mewn papur newydd yn gwahodd ym- geiswyr am y swydd wag, a chymhellodd fi i gynnig amdani. Yr oeddwn eisoes wedi cael profiad o waith trefnydd fel sefydlydd ac ysgrifennydd Cyngor Llafur Sir Gaernarfon, ac wedyn Gyngor Llafur Gogledd Cymru. Cynigiais am swydd ysgrifennydd y WEA, a gwahoddwyd John Davies a minnau ac un arall i ym- ddangos gerbron y Cyngor yng Nghaerdydd. Yr oedd John a minnau yn hen gyfeillion cyn hyn. Bûm yn aros gydag ef yn Ystalyfera am wythnos yn ystod Haf 1911, pan oedd yn gweithio