Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLADWRIAETH PLATO Gan PENNAR DAVIES PLATO: Y WLADWRIAETH. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans. Gwasg y Brifysgol. 15/ GOFYNNODD y golygydd hynaws imi ysgrifennu llith ar ddei- alog enwog Plato ar Y Wladwriaeth, ac ar gynnwys a dysgeid- iaeth y traethawd; dyma'r dull mwyaf buddiol i adolygu cyf- ieithiad D. Emrys Evans o'r gwaith, y cyfieithiad rhagorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasg Prifysgol Cymru. Y mae'r gyfrol hon, yn sicr, yn addurn ar lenyddiaeth ac ysgolheictod yr oes; dylai fod ymhob llyfrgell (gyhoeddus neu breifat) yng Nghymru, ac nid oes le i neb yn y dyddiau hyn achwyn ar ei phris. Cyflawnodd y cyfieithydd ei orchestwaith yn wych. Gellid manylu ar ei ddulliau o gyfieithu, ar ei ddefnydd o'r testun Groeg ac ar ei Gymraeg, ond nid dyna'r math o adolygu y gofyn- nir amdano y tro hwn, ac yr wyf yn fwy na bodlon ar ddatgan fy marn fod y cyfieithiad yn gampwaith, a'i fod yn cyfleu meddwl Plato yn deg ac yn effeithiol mewn Cymraeg urddasol. Tebyg y buasai'n well gan rai gyfieithiad agosach i'r gystrawen Mar heddiw, ond y mae llawer i'w ddweud dros y dewisiad a wnaetü y cyfieithydd, a rhaid ei ganmol am lynu wrtho mor gyson ac am wneud ei gyfrwng mor athletig o ystwyth. Hynod werthfawr hefyd yw ei Ragymadrodd. Hollol amhosibl yw hyd yn oed dechrau cyflwyno Plato a'i waith o ddifrif yn yr ysgrif fer hon, ond dylid nodi iddo gael ei eni'n fab i Ariston tua 427 C.C., a'i fagu mewn cyfnod 0 ar- gyfwng a chwalfa. Yn llanc ifanc, ynghyda'i frodyr hyn-y mae Glawcon ac Adeimantos, meibion Ariston, yn gymeriadau amlwg yn Y Wladwriaeth — bu'n ddisgybl i Socrates, yr holwr a'r dad- leuydd meistrolgar. Wedi marwolaeth Socrates yn 399, daeth cyfnod o drigo ac 0 deithio oddi allan i ddinas Athen, ac ar ôl hynny ymsefydlodd yn Athen a llywyddu ysgol athronyddol yr Academia. Dyma'r ffeithiau gweddol sicr am ei fywyd, er bod digon o straeon diddorol amdano. Ni allwn ond rhyfeddu at yr olyniaeth fawr: Socrates, y meddyliwr beirniadol; Plato, y meddyliwr creadigol; Aristoteles, y meddyliwr dadansoddol. Ni ellir bod yn sicr am faint dyled