Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yma i ymdroi â chyfoeth ei sylwadau ar yr addysg sydd yn angen- rheidiol i gynhyrchu rhagoriaethau'r gwarcheidwaid, ac ar ei feirniadaeth ar y beirdd; ond carwn awgrymu o ddifrif y byddai beirdd y traddodiad "clasurol" yng Nghymru'r Oesoedd Canol yn weddol gartrefol yn wtopia Plato. Cynhalwyr gwerthoedd oeddynt, ac felly'n gynghreiriaid cymwys i lywodraethwyr ei gymdeithas ddelfrydol. Tuedd Plato yw mawrygu'r natur ddynol yn ei ddarlun o'r gwarcheidwaid, ac anobeithio am y natur ddynol wrth ddisgrifio'r mathau dirywiedig o wladwriaeth. Y mae darllen ei waith mawr, ag edmygedd cynyddol, wedi cadarnhau un argyhoeddiad sydd gennyf, sef bod angen ceidwaid cyn y gellir gwarcheidwaid, a bod yn rhaid troi at Dduw a fydd yn anhraethol fwy na delfryd dyrchafedig, at Dduw sydd Ei Hunan yn Geidwad, at Dduw a fyn gyfrannu Ei fendithion uchaf, nid yn unig i ddosbarth brein- iol mewn cymdeithas, ond i bawb o blant dynion yn ddiwahân. Y mae awgrym cynhyrfus gan Blato ei hun mai merthyrdod yw tynged y goreuon yn y gwareiddiad annheilwng sydd yn bod yr awr hon; a thrwy'r awgrym hwn cawn gipolwg ar ryfeddodau ysbrydol na allai Plato eu hamgyffred yn llawn. Y mae Socrates y merthyr trwy ras Crist yn gymwynaswr mwy hyd yn oed na Socrates yr athronydd. Gan GERALLT DAVIES Llaw annwyl iawn a'u plannodd 0 boptu llwybr yr ardd, A'u maethu â thynerwch I lawnder ir a hardd. Y llaw ers tro sy'n fanllwch, Ond tyf y coed heb glwy, A gwae y sawl a'u torro- Mae enaid ynddynt hwy. Y COED