Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SESIWN CHWARTER YNG NGHYMRU Gan A. H. WILLIAMS CALENDAR OF THE CAERNARVONSHIRE OUARTER SESSIONS RECORDS. Vol. i. 1541—1558. Golygwyd gan W. Ogwen Williams, a chyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ar ran Pwyllgor Unedig Cofnodion y Cyngor Sir a'r Sesiwn Chwarter. 20/ DIAU fod llawer o ddarllenwyr Lleufer, fel miloedd o Gymry eraill, wedi clywed yn ddiweddar oddi wrth eu Swyddog Cof- restru Etholiadau iddo'u cofrestru fel rheithwyr. Dichon i rai ohonynt gael eu hesgusodi rhag cyflawni'r ddyletswydd ddinesig hon, ond y mae'n dra thebyg y caiff eraill eu gwysio i'r Sesiwn Chwarter yn hwyr neu'n hwyrach. 'Does dim sicrwydd y cânt eu "galw" i weithredu hyd yn oed y pryd hynny; ryw bum mlynedd yn ôl bu rhai ohonom yn un 0 Sesiynau Cymru am wythnos gron, yn disgwyl ddydd ar ôl dydd am yr "alwad", a bron ar y funud olaf yn cael ein gwysio i farnu achos deuddyn a gyhuddwyd o ddwyn darn o gig moch a bron bedwar cant o Oxo cubes. Dyna wythnos "wedi mynd i'r brenin" — yn llythrennol felly. Ond wythnos ddiddorol iawn er hynny, gyda digon o amser i weld un agwedd ar gyfundrefn gyfreithiol Prydain Fawr ar waith, ac i fyfyrio ar ei thwf graddol ar hyd y canrifoedd. Pe buasai cyfrol W. Ogwen Williams gennym ar y pryd, buasai'r aros di-derfyn yn fwy diddorol a buddiol fyth. Y peth cyntaf a'n tery wrth fwrw golwg dros y gyfrol hardd hon yw'r nifer mawr o ddogfennau sydd ar gael o hyd. Mae'n syndod meddwl bod rhai ohonynt yn mynd yn ôl i 1541-a chofier nad oedd gan bedair o siroedd Cymru na Sesiwn nac Ustusiaid Heddwch cyn y flwyddyn wedyn. Ychydig iawn o fylchau sydd yng nghofnodion Sir Gaernarfon o 1541 hyd heddiw. Mae hyn bron â bod yn wyrthiol a chofio'r cannoedd dogfennau cyffelyb a aeth ar goll yn siroedd eraill Cymru, y lliaws papurau gwerthfawr a aeth i'r safoage yn ystod y rhyfel di- waethaf, a'r memrynau cyfreithiol a ddefnyddir heddiw i wneud lamp-shades a phethau tebyg. Diddorol yw darllen bod rhai 0 chwarelwyr parchus Arfon yn y ganrif ddiwaethaf yn gwisgo rhai