Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PREN YN LLOSGI GAN DERWYN JONES THE BURNING TREE: Poems from the First Thousand Years of Welsh Verse, selected and translated by Gwyn Williams. Faber &- Faber. 25 PAN gyhoeddodd Gwyn Williams ei gyfrol, An Introduction to Welsh Poetry: from the Beginnings to the sixteenth century, yn 1953, awgrymodd adolygydd yn y cylchgrawn wythnosol Saesneg, The Listener, fod ei hawdur yn chwanegu ati flodeu- gerdd o gyfieithiadau a gosod y testun Cymraeg a'r cyfieithiad Saesneg ochr yn ochr. Canlyniad yr awgrym hwnnw yw'r gyfrol hon. Cydnebydd Gwyn Williams yn ei ragair diddorol i'r gwaith mai amhosibl fyddai cynnwys enghreifftiau o'r holl fathau 0 farddoniaeth a gynhyrchwyd yn y cyfnod toreithiog hwn mewn un gyfrol fel hon. Bu'n rhaid hepgor cywyddau brud, cerddi 0 fawl i Dduw, dychan ac awdlau a chywyddau moliant y beirdd i'w noddwyr. Dewisodd yr awdur yn hytrach gerddi y bydd ef ei hun yn cael hyfrydwch mawr ynddynt o'u mynych ddarllen. Ei chwaeth bersonol ef, felly, a benderfynodd y cynnwys, a'r canlyn- iad yw mai darnau o deilyngdod barddol yn hytrach na rhai sy'n dwyn holl nodweddion y cyfnod a gynhwyswyd. Nid ymarferiad- au academaidd, prennaidd chwaith yw'r cyfieithiadau, ond llafur cariad bardd sy'n ymhyfrydu yng nghamp cerdd dafod Gymraeg ar ei godidocaf. Dewisodd y cyfieithydd drosi'r mwyafrif o'r cerddi i rydd- iaith, gan barchu uned y llinellau. Er y bydd rhywrai, efallai, yn cwyno am hynny, y gwir yw fod y dull hwn yn rhoddi gwell siawns i sicrhau cyfieithiad manwl gywir. Y mae iddo ei fanteis- ion diamheuol gyda golwg ar y farddoniaeth gynharaf-gwaith Aneirin, Hywel ab Owain Gwynedd a Gwalchmai, oherwydd mewn disgrifiadau manwl ac ymadroddi cynnil, cryno y mae eu gogoniant hwy. Y mae rhyddiaith ddiwastraff, uniongyrchol yn cyfleu rhin y farddoniaeth hon yn llawer mwy effeithiol na chyf- ieithiadau mydryddol gwlanog sy'n cynnwys llawer 0 eiriau llanw. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, y mae ei maes yn un eang. Cynnwys yn gyntaf waith Aneirin, Taliesin, Meilyr, Cynddelw