Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEGLA Gan ELENA PUW MORGAN EDWARD TEGLA DAVIES: LLENOR A PHROFFWYD, golygwyd gan Islwyn Ffowc Elis. Gwasg y Brython. 9/6. Y MAE ambell ddarn o dir ar fferm na welir fawr arno ond o un man neilltuol. O symud ychydig gamau i'r dde neu i'r aswy, dyna ef o'r golwg yn lân, ac ni welir mwy arno nes cerdded tuag ato a sefyll ar ei ymyl. Siawns na ddarganfyddir ef wedyn fel rhyw lannerch bach eithafol wastad. Gall fod arno borfa ddigon blasus i'r ychydig anifeiliaid a gynhalia; gall hefyd mai brwyn a chrawcwellt yw ei gynnyrch; ond un peth sydd sicr-ni feddyliai neb am ei alw'n "olygfa", a lle gwael yw yntau i weld ei well ohono. Ceir llain arall, na waeth o ba ran o'r fferm y chwiliwch amdani, fe'i gwelwch. Dichon na bydd y nyrs goed yn ei chongl chwith mor eglur o un cae ag o'r llall, ond daw clwstwr o flodau mewn congl arall i'r golwg i wneud iawn am hynny. Nid yi un yw patrwm heulwen a chysgod arni o bob cyfeiriad ychwaith, ond gwyddoch mai'r un yw'r llain o hyd, ac mai chwi a newidiodd eich safle, nid hyhi. Y mae dynion hefyd sydd i'w gweld o un cyfeiriad yn unig. Y mae eraill y ceir cip ar ryw ddarnau ohonynt o Ie neu ddau arall. Ac yna'r ychydig! Syllwch arnynt o'r fan a fynnoch, ac fe daerwch nad oes gyfoethocach golygfa'n bosibI-nes symud ohonoch i bwynt arall, a theimlo'r un peth drachefn. Yn y gyf- rol hon, gosododd Islwyn Ffowc Elis nifer o syllwyr mewn gwahanol feysydd i ddisgrifio'r hyn a welant. Rhyngddynt, cawn bortread byw, er y teimlaf fod agweddau eraill eto ar y darlun. Diau mai anhawster y Golygydd oedd fod rhai o'r meysydd hyn, er i'r golygfeydd amrywio, eto'n ffinio ar ei gilydd, a hynny'n demtasiwn i'r syllwyr dorri tros y gwrych i diriogaeth cymydog, fel a ddigwyddodd eisoes ar dro; ond hawdd yw maddau a mwyn- hau'r camwedd afieithus hwnnw. Rhydd y Ddalen Gynnwys awgrym o gyfoeth eu testun, a thrawiadol yw'r amrywiaeth yn oedran y syllwyr. Ceir yn eu mysg hynafgwyr, canol oed a phobl ieuainc, ac y mae'r gobaith sy'n oblygedig yn y Cyflwyniad yn argoeli mai felly y bydd i'r blynyddoedd pan fo'r canol oed wedi cyrraedd i le'r hynafgwyr, a syllwyr ifainc ar y gorwel.