Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arnynt. Crynhoir hyn yn wych yn y geiriau sy'n cloi ysgrif David Thomas ar y Cyfaill. "Y mae lliaws o bregethwyr a llen- orion ieuainc sydd wedi cymryd eu dysgu gennych ac y mae Cymru'n gwrando arnynt, ac yn gwrando arnoch chwithau drwy- ddynt". Praw o rin cyfraniadau Dyddgu Owen, Tecwyn Lloyd, ac Islwyn Ffowc Elis yw'r awydd a godant ar ddarllenydd i droi'n ôl eto at bob un o weithiau Tegla. Maes toreithiog yw un Miss Owen ar Lenor y Plant, a'i phrofiad eang hithau'n gymorth iddi drosglwyddo'i naws i ni. Y Nofelydd sydd gan Tecwyn Lloyd, ac y mae'i gasgliadau, fel arfer, yn ddiddorol, er yr ymddengys i mi ei fod weithiau'n gweld arwyddocâd na fwriadodd yr awdur. I gloi'r gyfrol, traetha Mr Elis yn feistraidd ar y Proffwyd, fel yr amlygir ef yn yr ysgrifau. Mwynheais ei ymdriniaeth ar ragfarn- au Tegla, ac ar ei ddulliau pwnc-ac-eglureb a thema-ac- enghraifft. Dyma'i ddisgrifiad perffaith ohono-"gydag ynni dyn ifanc a syberwyd hynafgwr". Bardd y gyfrol yw Gwilym Tilsley, sydd, â rhyddid bardd. yn cyffwrdd â phob un o'r meysydd yn ei dro yn ei gadwyn gampus o englynion. Cae arall y caraswn fod syllu ohono fai straeon byr Tegla Davies. Cofiaf yr ias o daro ar stori'r Dyn Cyntaf wedi'i chyf- ieithu i'r Saesneg a'i chyhoeddi yn un o gyfres mewn newydd- iadur dyddiol poblogaidd, a theimlo stori'r Cymro'n rhagori ar y mwyafrif mewn dychymyg a chrebwyll. Yn egluro'r darlun ac yn goleuo'r cyfan y mae'r frawddeg a ddyfynnir gan David Thomas, "Y mae gen i fyw efo mi fy hun ar ôl heddiw". Ac mae'n sicr fod gofyn i'r Parch. Tegla Davies gadw'i safonau'n uchel cyn y gall fyw'n gysurus gydag Edward Tegla Davies. Cafodd y Golygydd fendith ar ei waith yn casglu'r llyfr ynghyd, a gwnaeth pawb a fu ynglyn ag ef eu rhan yn rhagorol. Y deyrnged orau a fedraf ei rhoi iddynt yw dweud fod y llyfr ymron â bod yn deilwng o'i destun.