Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRY AC ADDYSG AMERICA Gan BOB OWEN I DISGYNNODD y golygydd arnaf fel barcut yn ddirybudd hollol, a chipio ysglyfaeth yn ei ylfin a oedd yn amrwd a llymrigaidd ddigon. Cais a ddaeth oddi wrtho am ysgrifau ar gyfraniad y Cymry at addysg yn Unol Daleithiau America. Caiff ef gymryd y bai felly am bob nam a chrychni yn yr ysgrifau. Nid diffyg defnyddiau a fydd yn gyfrifol am yr anafau, ond pall amser i'w trefnu'n hwylus a thaclus ar gyfer darllenwyr o safon mor uchel â darllenwyr LLEUFER. Gan fod y Cymry wedi dechrau ymfudo i'r wlad bell uchod ers tair canrif a hanner bellach, eang yw'r maes i weithio arno, ac y mae'n ddihysbydd bron. Credaf y gallaf bron i ugeiniau, os nad cannoedd, ohonynt ymdaflu orau y gallent i fywyd yr Unol Daleithiau yn ei phethau aruchelaf. Yr un yw eu cyfraniadau i'r wlad honno cyn ymddihatru ohoni o balf yr Ymerodraeth Brydeinig ag a ydyw ar ôl iddi ei ffurfio ei hun yn Weriniaeth. Suddodd ôl traed y Cymry yn ddwfn i'w daear hi, ac ni chredaf yn anghofir eu cyfraniad iddi tra pery'r gwareiddiad presennol yn y byd. Rhyfedd yw imi orfod mynegi fod personau unigol Cymreig UDA wedi cyfrannu mwy at addysg y Weriniaeth fawr honno nag a gyfrannodd personau unigol yng Nghymru at addysg Cymru. Sylfaenwyd rhai o brif golegau America gan Gymry pur, dynion a oedd yn enwog mewn hanes, a dynion y mae pawb drwy'r Gorllewin yn hollol gynefin â'u henwau. Rhaid bod yn bur wyliadwrus rhag cyfrif pawb yn Gymro am fod ganddo gyfenw Cymreig. Collodd y Cymry Americanaidd eu pennau ar William Penn, sefydlydd talaith bwysig Pennsylvania, trwy honni ei fod yn Gymro ac yn ddisgynnydd o Duduriaid Penmynydd ym Môn. Wedi ymgynghori â thablau achau'r meistriaid, bu raid imi wrthod William Penn yn ben- dant fel Cymro. Addefaf y ceid llawer Penn yn Gymro yn Sir Drefaldwyn dair canrif yn ôl, ond methaf yn lân â phrofi fod unrhyw gysylltiad rhyngddo ef a'r rheini. Priodolwyd Roger Williams, sylfaenydd coleg cyntaf America, yn Gymro gan ugeiniau lawer o Gymry'r Gorllewin a Chymry Prydain, ond er gwaethaf yr ymdduwioli a'r ymsanct- eiddio a fu ar gorn Roger Williams, fel Cymro glân gloyw, ac er