Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i lyfr Saesneg o gofiant iddo ymddangos tu,a chari mlynedd yn ôl, a phriodoli iddo gael ei eni yn Sir Gaerfyrddin, ni allaf ei dderbyn, gan fod gennyf sicrwydd mai un o Lundain oedd Roger Williams. Y mae'n gryn broblem penderfynu faint o'r ugeiniau sydd yn dwyn cyfenwau Cymraeg yn UDA sydd yn Gymry mewn gwir- ionedd. Poenir fi gan Americaniaid sydd yn honni eu bod yn ddisgynyddion o Walchmai, un o feirdd cynnar cyfnod y tywys- ogion. Dwg amryw bobl yn UDA y cyfenw Gwathmey, a chredant mai llygriad 0 "Gwalchmai" ydyw. Y mae gennyf bentwr 0 lythyrau oddi wrth Mrs. Gwathmey, yn S. Carolina, ac eraill, yn holi ynglyn ag Owen Gwathmey, a ymfudodd o Fôn yn adeg Oliver Cromwell, ac a oedd yn Frenhinwr selog. Yr oedd un o'i ddisgynyddion ef yn sylfaenydd coleg cyntaf Richmond, Virginia. Rhyfyg ac ynfydrwydd fyddai i ni hawlio'r Gwathmey hwn, er mwyn ein gwag-ogoneddu ein hunain fel cyfranwyr at addysg yn America. Peth arall, nid oes ganddynt rithyn 0 brawf dogfennol mai gŵr o Fôn oedd yr Owen Gwathmey hwn. Onid yn Sir Dre- faldwyn yr oedd rhelyw'r Gwalchmeiaid yn byw dair canrif yn ôl? A cheir eu disgynyddion yn yr un sir heddiw. Bu amryw ohonynt yn Aberdaron a Llan,engan yn Llyn ddwy ganrif yn ôl, ac un teulu a gariai'r cyfenw yn Llanwenllwyfo, Môn, tua'r un adeg, a cheir mewn dogfen enw Gwalchmai a oedd yn byw yn y Brithdir, Dolgellau, yn nechrau'r ddeunawfed ganrif. Tebyg y cyhuddir fi'n chwyrn am beidio â chydnabod Isaiah Thomas, Ll.D., yn Gymro. Gwr amlwg iawn yng ngwahanol ganghennau dysg oedd ef, ac awdur y ddwy gyfrol ragorol, The History of Printing in America, tua 1810. Gan fod llaweroedd 0 ysgrifenwyr ar Gymry America yn ei gyfrif yn Gymro American- aidd, naturiol i mi felly fyddai ei dderbyn i'r rhwyd, ond hynny nis gallaf ddim. Ymsefydlodd Evan Thomas, un o'i hynafiaid, ym Mae Massachusetts yn 1639 neu 1640, a thua Boston y trigai ei ddisgynyddion, ac yno y ganed Isaiah Thomas yn Ionawr 1750, a bu farw yn 1831. Am.ericaneiddiwyd gormod arno yn Y rhan Seisnig honno i mi ei dderbyn fel Cymro. Yn sicr, fe'm pwyir am beidio â chynnwys William Williams, yr argraffydd gwych a drigai yn Utica, Oneida, Efrog Newydd, rhwng 1803 ac 1838, gŵr a wnaeth gyfraniad enfawr drwy gyf- rwng ei wasg mewn dwyn allan lyfrau rhagorol i ddysgu i blant