Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAU FARDD PONT Y CANIEDYDD, cyfrol o Fydryddiaeth, gan Alun Llywelyn-Williams. Gwasg Gee. 5/ Y MAE'R rhan fwyaf o gerddi'r gyfrol arbennig hon ar ffurf- iau mwy neu lai cynfensiynol, ac eraill ar rhuthm difesur. Dull y canu yw cyflwyno darluniau 0 brofiadau o wahanol fathau a gafodd y bardd a dangos eu harwyddocâd. Llefara fel sylwed- ydd meddylgar, yr arddull uniongyrchol, yn cyfuno ieithwedd llyfr a llafar, dan ddisgyblaeth lem a'r sylwi'n dreiddgar, fel y dengys, yn neilltuol, ei fynych ansoddeiriau dewisol, tro swmerog, distawrwydd siffrydiol, cariadon cyfryngol, golau eglwysig, coed proffwydol, pelydrau palfalog. Y mae ganddo, er hynny, ei an- soddeiriau anwes, cain a caeth, nad ydynt, wrth gwrs, yn gwisgo cystal. Prif thema'r gyfrol yw adfyd y byd sydd ohoni. Ymdrinir ag ef o dan dri phen: Rhawd bersonol y bardd ei hun, Cymru, a Sefyllfa dyn. Yn ei ganu personol y mae'n ymglywed â chyflwr poen a meddyginiaeth breuddwydion, megis yn y gân, Penyd y Bardd, canu sy'n ddiweddariad ar thema sylfaenol ym marddoniaeth ramantaidd T. Gwynn Jones, R. Williams Parry a W. f. Gruffydd. Cyffelyb yw ei safbwynt yn ei ganu am Gymru. Felly yn y darn hwnnw o fydryddiaeth ddeialog, Branwen a'r Ffoadur Arall, fe welir y boen a'r breuddwyd yn ymgodymu â'i gilydd, ond yn awr y mae safbwynt o natur Stoicaidd yn ymddangos, fel pan ddywaid Branwen: "Derbyn sydd raid amodau'r duwiau, a pha dynged flin a bennwyd arnom bawb a throi'n caethiwed balch yn fawl yw'n buddugoliaeth". Gwêl sefyllfa dyn mewn byd yn "llawn dinistr". Nid o safbwynt Cristionogaeth, megis Gwenallt, y mae'n dehongli prof- iadau ei oes, nac o safbwynt diwygio ar drefniadaeth cymdeithas, ond yn hytrach ceir canu ag iddo awyrgylch deallol ac ymglywed ag adfyd ein dyddiau o safbwynt dyneiddiol. Anodd iawn yw i Gymro fel Cymro ganu am ryfel fel y gwyddom ni amdano, anos byth pan na bydd yn ei ddehongli o safbwynt Cristionogaeth. Yn ei gyfrol flaenorol, Cerddi, credai'r bardd y deuai "newydd fyd" i ddilyn y "gymdeithas lygredig" y