Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nag ar unrhyw sumbol allanol ohoni, pa mor gymwys a phert bynnag y bo-ar y llawenydd glân Tu hwnt i ardderchowgrwydd chwedl a chân. Ni ellir mewn adolygiad byr onid cyffwrdd â rhai edau ym mhatrwm cyfoethog awen Waldo Williams. Ond rhaid nodi un peth arall. Ceir yn y gyfrol hon rai o'i gerddi ysgafn, ac y mae eu ffraethineb a'u medr yn ddifyr tu hwnt. Pe bai Waldo heb ysgrifennu dim ond ambell gân ddychan fel Beth i'w Wneud â Nhw neu Y Sant, neu ambell barodi fel Ymadawiad Cwrcath, neu gerdd ddoniol fel Y Ci Coch, byddai'n rhaid ei gyfrif ymhlith meistri ein canu ysgafn yn Gymraeg. Y mae ei hiwmor yn ei alluogi i chwerthin am ben y troeon trwstan sy'n digwydd iddo ef ei hun, fel y dengys y gerdd ddoniol (ac anhygoel bron mewn gwlad efengyl) Fel Hyn y Bu. Pa le bynnag y trown yn y gyfrol hon, gwelwn law gelfydd meistr ar ei grefft, aeddfedrwydd profiad, delfrydiaeth aruchel a llawenydd tawel. Llyfr i'w drysori ac i ymhyfrydu ynddo yw Dail Pren, gan un o feirdd praffaf a siriolaf ein cenhedlaeth ni. Priodol iawn ydoedd cyhoeddi'r gyfrol at y Nadolig gan fod pob cerdd ynddi yn datgan ffydd yr awdur yn addewid yr hen garol: Tywysog tangnefedd wna'n daear o'r diwedd Yn aelwyd gyfannedd i fyw. ALUN LLYWELYN-WILLIAMS Pan oedd T. Gwynn Jones yn ddeunaw oed, cyfieithodd The Better Land Mrs Hemans i'r Gymraeg mewn cynghanedd. Dyma'r llinell gyntaf yn Saesneg: I heatr thee speak of a better land; a dyma gyfieithiad Gwynn ohoni: Fe'th glywaf di'n sôn am ryw dirion fro derydd. Dwg hon ar gof inni un o'r llinellau mwyaf adnabyddus yn awdl Ymadawiad Arth\ir: Draw dros y don mae bro dirion nad ery.