Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS OFNAIS mai yn chwilfriw yr âi ein trefniadau ddiwedd yr hen flwyddyn a chael ein bwrw i'r gamlas. Ond wedi i'r gamlas gau, fe ddaeth y sychder mawr a pherygl i foduron ein hathrawon a'n trefnyddion ballu o ddiffyg petrol. Serch yr anawsterau, llwyddasom i gychwyn y tymor yn bur dda, ond collwyd amryw ddosbarthiadau gan nad oedd petrol imi fyned yno i roi pethau ar y gweill. Cyn y dogni llwyddais i ymweld â deunaw o'n dosbarthiadau, tipyn llai nag arfer. Pleser oedd cael cwrdd â dosbarth Llanuwchllyn, sydd yn awr wedi pen- derfynu gwneud cwrs sesiwn o dan Goleg Bangor. Amlwch yn trin Diwylliant Gwerin, ac yn cael hwyl nodedig. Four Crosses a Bae Colwyn yn ymgodymu â Seicoleg; hefyd Cemaes ar y noson yr ymwelais â hwynt. Dosbarth Caernarfon mewn dygn ymrafael â syniadau Heracleitus, a bron rhoi yr "half-Nelson" arno, neu y fo arnyn nhw Dau ddosbarth byw ym Mhenrhyn Deudraeth, y naill ar Lenyddiaeth Gymraeg, a'r Hall yn ymgodymu â phrob- lemau economaidd a gwleidyddol. Rhai eraill y bûm yn ymweld â hwynt ym Mrynrefail (Môn), Llanfair T.H., Prestatyn, Rhudd- lan, Cerrig-y-Drudion, Llangollen a Llanddeusant. Un arall y cefais y fraint o'i gyfarfod oedd Llandderfel. Y dosbarth wedi dechrau cyn imi gyrraedd yno, a dyna lle'r oedd yr athro a'r aelod- au yn dadlau'n frwd ar "gyfiawnder" a "chydraddoldeb", a beth oedd Plato wedi ei ddweud yn ei Weriniaeth. Ar y diwedd, dyma un o'r aelodau ataf ac yn atgoffa imi ein bod wedi cyfarfod o'r blaen, yn Llandrillo. Cofiais amdano, plismon oedd ef yno, aç ef oedd wedi cychwyn y dosbarth WEA yno flynyddoedd yn ôl, a dyma sut y bu. Un tro, aeth ef a'i wraig i Danygrisiau i aros noson gyda brawd y wraig, sef Richard Jones, Cwmorthin ("y diweddar' erbyn hyn). Ond yr oedd hi'n digwydd bod yn noson dosbarth y WEA yn Nhanygrisiau, ac nid arhosai Richard Jones adref o'r dosbarth. O na, fe aeth â'i frawd-ynghyfraith i'r dosbarth gydag ef. Gweriniaeth Platon oedd y pwnc, a Ffestin Williams yn athro. Cafodd y plismon gymaint o flas ar y ddarlith a'r drafodaeth fel yr aeth yn 01 i Landrillo wedi penderfynu cael dosbarth yno hefyd. Am ddyddiau wedyn, bu fel helgi ar ôl pobI dda-nid pobl ddrwg-Llandríllo ac yn rhoi symans iddynt i