Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY ER bod dogni petrol, fel y gwyddoch, wedi gwneud pethau yn llawer mwy anodd inni i gyd, yr athrawon llawn-amser a'r rhai cynorthwyol, buasai ei effeithiau yn llawer iawn mwy difrif- ol a thrychinebus oni bai am y cymorth a'r cydweithrediad a gawsom gan Swyddfa Betrol y Rhanbarth. Hyd yn hyn nid yw rhaglen ein dosbarthiadau, a'r gweithgareddau eraill, wedi cael amharu arnynt gan y prinder petrol, ond bydd yn anodd, er hynny, i athrawon sydd yn arfer teithio i'w dosbarthiadau yn eu ceir eu hunain ymgymryd â dim gwaith newydd. Bu peth estyniad ar ein gwaith y tymor hwn, ond y mae terfyn i'r hyn y gallwn ei wneud heb fynd i anawsterau ariannol difrifol. Y mae rhai anfanteision amlwg ynglyn â'r modd y bydd y Weinyddiaeth Addysg ar hyn o bryd yn penderfynu maint ein Grantiau, er bod rhai manteision hefyd. Y mae swm y gwaith gwirfoddol a wneir gan ein Canghen- nau, gyda chymorth cyfeillion i'r Mudiad, yn fwy nag erioed, a gwaith ydyw nad yw'n costio llawer iawn. Gallwn lenwi tudalen- nau o LLEUFER ag enwau meibion a merched sydd yn rhoddi eu gwasanaeth yn ddirwgnach i gynorthwyo ein Canghennau. Dyma ychydig enghreifftiau. Rhoes yr aelod seneddol, Elwyn Jones, Recorder Abertawe, ddarlith wych odiaeth ar "Cyfiawnder yn China Newydd" i gynulliad lluosog o Gangen Abertawe. Bu Mr Jones ar daith yn China rai misoedd yn 61, fel aelod o gwmni o ymwelwyr a wahoddwyd gan Gymdeithas Gwyddor Gwleid- yddiaeth a Chyfraith China. Rhoes ei frawd, Idris Jones, a fu ar daith yn Rwsia, anerchiad ar y wlad honno i Gangen Pontar- ddulais o'r WEA. Teithiodd T. Jones Pierce, o Goleg Aberyst- wyth, i Landrindod i roddi anerchiad ar Gymru i aelodau'r Gangen newydd yn y lle hwnnw. Traddododd H. Charles Ford,. ysgolhaig gwych sydd yn awr yn fyfyriwr yng Nholeg Caerdydd, sgwrs ddiddorol a byw iawn i aelodau Cangen Caerdydd. Yr ydym yn ddiolchgar i'r rhain oll, ac i lawer yn rhagor, am eu gwasanaeth gwerthfawr. Ddydd Sadwrn, Tachwedd 10, cynhaliwyd Ysgol Undydd lwyddiannus yng Nghaerdydd, ar bwnc "Automation a'r Undeb- au Llafur". J. W. Carron, llywydd Undeb y Peirianwyr, oedd y