Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

prif siaradwr, a daeth dros 150 o bobl ynghyd i'r Coleg Techneg- ol lle y cynhelid yr Ysgol. Cynhaliwyd yr Ysgol hon mewn cyd. weithrediad â Phwyllgor Cynhyrchaeth. Caerdydd a'r Cylch. Yr ydym hefyd wedi trefnu tair Ysgol Undydd mewn cydweithred- iad â Chymdeithas Cynghorau Plwyf Sir Forgannwg. Rhaid imi gyfaddef fod Hugh Parry (Ysgrifennydd Mygedol y Sir) a minnau wedi ein siomi ar yr ochr orau pan welsom fod rhwng hanner cant a deg a thrigain o bobl wedi dyfod ynghyd i bob un. Yng Nghaerdydd y cynhaliwyd un Ysgol, a'r siaradwyr yn y ddau gyf- arfod oedd C. Arnold-Baker, Ysgrifennydd Cyffredinol Cym- deithas Genedlaethol Cynghorau Plwyf, a Bryant H. Williams. Yn yr Ysgol ym Mhenybont-ar-Ogwr, R. C. Mathias a Herbert Lloyd oedd y siaradwyr, ac yn Abertawe D. L. Jones ac Ednyfed Curig Davies. Yr oedd yn amlwg oddi wrth ymateb y rhai a ddaeth i'r ysgolion hyn y dylem fynd ati i drefnu mwy o Ysgolion o'r un nodwedd, a gobeithiwn y gallwn ymhellach ymlaen drefnu rhagor o Ddosbarthiadau yn yr ardal ar gyfer y rhai sydd yn dymuno astudio Llywodraeth Leol. Y mae'r gwaith ynglyn â Pilot Scheme Port Talbot yn mynd yn ei flaen yn llwyddiannus iawn. Cawsom eisoes ddeg o Ysgol- ion Bwrw Sul, ac fe gynhelir deg yn rhagor yn ystod y tymor o lonawr i Fawrth 1957. Fe welir yn amlwg fod y Rhanbarth a'r Canghennau yn brysur gyda Rhaglen drom o weithgarwch, ar wahân i waith cyffredin ffurfiol y dosbarthiadau. Yr ydym yn «ddyledus iawn i swyddogion ac aelodau ein Canghennau am eu holl ymdrechion yn trefnu'r ysgolion hyn a'r Darlithiau Cyhoeddus, a chyfryngau addysg eraill. YSGOLORIAETH MARGARET JAMES Gwahoddir ceisiadau oddi wrth FERCHED am Ysgoloriaeth i'w galluogi i ddilyn Cwrs Gradd yn un o'r Prifysgolion a ganlyn -Leeds, Manceinion neu Nottingham. Y mae nifer o Ysgoloriaethau ar gael i helpu myfyrwyr i fynd 1 Ysgolion Haf. Ceir rhagor o fanylion o Swyddfa'r WEA ym Mangor neu «Gaerdydd.