Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O.GOLEG HARLECH Gan I. DAN HARRY GAIR yn gyntaf am fyfyrwyr y flwyddyn o'r blaen. Aeth pymtheg ohonynt yn ôl i'w hen gynefin; dechreuodd saith ar eu gyrfa yn y brifysgol, un bob un i Fryste, Llundain a Chaer- grawnt, a dau i Aberystwyth a Chaerdydd. Derbyniwyd dau i Goleg Caerdydd ac un i Brifysgol Southampton i ddilyn cwrs diploma yn y gwyddorau cymdeithasol; mae pedwar yn ym- baratoi ar gyfer gwasanaeth ieuenctid yn Abertawe, ac aeth dau i Golegau Hyfforddi-un i Goleg Normal Bangor, a'r llall i Loughborough. Dymunwn yn dda iddynt. Wedi i rai o'n hathrawon deithio De a Gogledd a gweld rhyw chwe ugain o fechgyn a merched a ddangosai ddiddordeb yng ngwaith Coleg Harlech, teimlem yn hyderus y byddai nifer ein myfyrwyr yn dangos cynnydd sylweddol am y flwyddyn 1956- 57. Wedi gwyntyllu'r ceisiadau yn o fanwl, disgwyliem o leiaf drigain o fyfyrwyr, a siomiant mawr ydyw gorfod cofnodi mai tri a deugain yw'r nifer a gofrestrwyd ddechrau mis Hydref. Daethant o Gymru a Lloegr, Denmarc, Awstria, yr Almaen, Kuwait, Jamaica a'r Unol Daleithiau, ond byr fu arhosiad y ddwy ferch o'r Almaen. Nid oes un cynrychiolydd o Sir Fôri, Sir Fflint, Ceredigion, Sir Ddinbych na Maesyfed; y mae tair o'r merched o Gymru a phump o'r bechgyn o Ogledd Cymru. Dechreuwyd ar waith y gwahanol gymdeithasau mewn byr amser, ac mae bywyd adloniadol a chymdeithasol y myfyrwyr erbyn hyn wedi hen gymryd ei ffurf draddodiadol. Cymerwyd rhan yn yr Ymryson Areithio dan nawdd y Sunday Obseruer gan gynrychiolwyr ein Cymdeithas Lenyddol a Dadleuol, ac unwaith yn rhagor cawsom y pleser o groesawu siaradwyr o'r tu allan, ac yn eu plith, Mrs K. Jones Roberts o Ffestiniog, ar Adroddiad y Comisiwn ar Broblem Ysgariad, D. W. Gundry, o Goleg Bangor, ar Yr Athronydd a Christionogaeth, ac Eric Owen, Llanelwy, ar Agweddau ar fywyd y brodorion yn Affrica. Teilwng o'n sylw arbennig hefyd oedd ymweliad y Chweawd Offerynnol o Goleg Aberystwyth am y tro cyntaf â Choleg Harlech. Cawsom raglen o'r ansawdd orau gan y parti hwn, a'r hyn oedd o ddiddordeb i