Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION (i) HEN BENILLION, gan T. H. Parry Williams. Gwasg Aberystwyth. 7/6. (2) RHYDDIAITH GYMRAEG, yr Ail Gyfrol. Gwasg y Brif- ysgol. 15/ (1) Cafwyd yr argraffiad cyntaf o'r Hen Benillion ym Mehefin 1940, o dan nawdd y Clwb Llyfrau Cymreig. Aeth y Clwb hwnnw, fel llawer peth da arall yng Nghymru, o'r golwg dan y dwr, ym merw y blynyddoedd rhyfelgar diwaethaf hyn. Ond gwnaeth yr Hen Benillion, tan olygiaeth y Doethur mwyn o'r Rhyd-Ddu, eu lle yn serch a chalon cenedl. Ac yn Awst 1956 wele Ail Argraffiad. Yn ei ragymadrodd i'r argraffiad hwn, dywaid y golygydd na newidiodd fawr iawn ar gynllun yr ar- graffiad cyntaf, "ar wahân i gywiro ambell wall yma ac acw, ac unioni ychydig ar wahanol fersiynau ar yr un penillion". Gwerthfawr iawn yw'r Rhagymadrodd, sydd yn ymgais "i roi ychydig o gnawd am rai o'r esgyrn sydd yn yr Ol-ymadrodd". Pwysleisir yr agwedd lafar sydd i draddodiad y canu rhydd. O enau i enau, o genhedlaeth i genhedlaeth, y daeth llawer o'r hen benillion hyn. A chyfareddwyd yr hen bobl gan y glec slei o gynghanedd sydd yma ac acw ar hyd-ddynt. Y cof, nid inc a phapur, felly, a gadwodd dorreth o'r penillion yn fyw. "Ar dafod leferydd", dyna unig bedigri aml i hen bennill a cherdd o'r 16eg a'r ìÿeg ganrif. Pa ryfedd, os ceid amrywiaeth yn } penillion pan aed ati i'w rhoi ar glawr. Yr hen ganu llafar na fuasai neb yn meddwl am ei roi ar lawr am gyfnod maith- hen hwiangerddi, caneuon gorchwyl a chwarae, carolau gwyliau, cerddi natur a thymhorau, a cherddi ffraeth y bywyd bob dydd. A bywyd gwledig amaethyddol yw'r cefndir, gyda'i ddiddordeb mewn asbri ifanc sydd yn bwrlwm mewn ffair a marchnad. Y mae yma ddigonedd o benillion o dan benawdau hwylus: Doethineb, Profiad, Bywyd, Hanes, Cyfeddach, Canu, Natur, Serch, a Ffraethineb. Tros saith gant ohonynt, a'r dewis yn od o wych. Ar ben hyn oll rhyw ddeugain tudalen o nodiadau hwylus ar y penillion, a'u tras hyd y gellir ei olrhain, a'r Mynegai twt ar y diwedd.