Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Meistr", ebr y gwas, "Marchogwch yn galed. Crogir y dyn hwn am ladd un dyn a chwithau a laddasoch gant". Y mae yma gyfarwyddiadau gwych i'r darllenydd ac i'r ar- eithydd. Dywedir yn eglur naçl yw'r araith a sgrifennir mewn pabwyr (ar bapur), ac felly a ddarllenir, yn gweithredu hanner cymaint yng nghalonnau'r gwrandawyr a phan draethir hi ar dafod leferydd, yn wiwrwydd, yn soniarus, ac o ddyfnder calon." Dyna dalp o ddoethineb Henri Perri (1595), ac y mae'n hollol wir heddiw. Llyfr, fel y dywedwyd, â stamp yr ysgolhaig arno ydyw hwn, ond llyfr hefyd ydyw y gall unrhyw ddarllenydd deallus gael llawer o fudd ohono. Y mae Thomas Jones, a'r llu o ysbrydion gwasanaethgar sydd o'i ddeutu wedi ein gosod yn drwm yn eu dyled. JOHN EVANS (ı) CYMYLAU AMSER, gan Meurig Walters. Gwasg Gee. 6/ (z) LOWRI, gan Grace Roberts. Gwasg y Brython. 11/6. (1) Yn ei ragair i'w nofel, Cymylau Amser, dywaid yr awdur iddo ei hysgrifennu o fewn mis o amser, a phan ddarllenais hynny ni ddisgwyliais weld llawer o werth ynddi. Yna, yn yr un frawddeg, dywaid i'r nofel ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chododd hynny fy nisgwyliadau ychydig. Ond gwireddwyd fy ofnau, oherwydd y mae llawer o ôl brys ynddi, megis diffyg cynildeb mewn mynegiant, arddull anystwyth, ac anwastadrwydd. Effaith arall y brys yw nad yw mwyafrif y cym- eriadau yn ddim ond teipiau yn unig. Mae deunydd y nofel yn gyfarwydd bellach, sef hanes bachgen talentog o Dde Cymru yn llwyddo i fynd i'r coleg yn nydjdiau'r diweithdra. Swniai'r idiomau yn chwithig i'm clust Ogleddog, a buasai'n fantais eu cyfyngu i'r ddeialog. Er hyn i gyd, croesawaf y nofel hon â breichiau agored. Mae gan yr awdur ddawn i adrodd stori, ac y mae yn ystori ei hun lawer darn cyffrous, gan hawlio diddordeb y darllenydd yn ddi- ollwng. Mae yma ddisgrifio gwych, a rhoes inni ddarlun byw o'r gymdeithas sy'n gefndir i'r cwbl. Mae'n debyg nad yw'r awdur yn honni iddo sgrifennu camp- waith, ac nid yw'r gwaith hwn yn glasur, ond pa wahaniaeth am hynny? Credaf yn bersonol mai dyma'r math o lenyddiaeth y