Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae ar Gymru fwyaf o angen amdani ar hyn o bryd, sef llenydd- iaeth ddiddorol sy'n debyg o ddenu ein pobl ifainc i ddarllen Cymraeg. Bydd darllen helaeth ar y stori hon, a hynny gyda blas a phleser. Diolch i'r awdur am ei gymwynas, ond wrth ei groes- awu'n gynnes iawn i gwmni bach ein nofelwyr, carwn roi cerydd caredig iddo yr un pryd, a'i gymell i drafferthu mwy y tro nesaf, oherwydd y mae'r ddawn ganddo. (2) Nofel am Gymru yn Saesneg ydyw Lowri, ac mae'r awdur y tro yma yn Gymraes o ran iaith a chefndir. Siom fawr i mi felly oedd iddi ddilyn y ffasiwn o gyfieithu idiomau Cymraeg yn llythrennol i'r Saesneg, ond yn ffodus cyfyngodd hynny i'r deialog. Ar y siaced lwch dyfynnir canmoliaeth E. Tegla Davies i'r nofel. Dywaid ef ei bod yn un o'r nofelau gorau am Gymru a ddarllenodd erioed. Canmoliaeth eithriadol, a hynny gan ŵr y mae ei ddawn yn hysbys a'i farn yn ddiogel ac onest. Y peth amlycaf yma efallai yw dawn arbennig i ddarlunio. Ceir yma ddarlun byw o fywyd yn Nyffryn Clwyd yn niwedd y ganrif ddiwaethaf ynghyda llawer iawn o wybodaeth am y cyf- nod, a hwnnw'n cael ei gyfleu yn hynod fyw, gan roi anadl bywyd yn esgyrn sychion ffeithiau hanes. Rhagoriaeth y stori yw'r cefn- dir, a bron na theimlir weithiau mai esgus dros ddisgrifio hwnnw yw'r gweddill. Gwêl Saeson di-Gymraeg ddarlun teg a diragfarn o fywyd y tro yma. Mae ei chynllun yn syml iawn, sef hen wraig yn adrodd ei hatgofion. Buasai rhai yn ei galw yn nofel hen ffasiwn, ond prun bynnag, mae'r stori'n cydio. Mae yma ddarnau porffor sy'n farddoniaeth, darnau o anwyldeb mawr sy'n llawn tynerwch a phrydferthwch, cyffyrddiadau byw a gwreiddiol, a chymeriadau y gellir credu ynddynt. Diolch am nofel yn Saesneg yn cyflwyno darlun mor deg ac annwyl o fywyd Cymru. R. BRYN WILLIAMS (i) THOMAS JONES O DDINBYCH, gan Frank Price Jones. Gwasg Gee. 3/ (2) YR ESGOB WILLIAM MORGAN, gan G. J. Roberts. Gwasg Gee. 5/ (3) TRIWYR PENLLYN, dan olygiad Gwynedd Pierce. Plaid Cymru. 3/6. (1) Oni chafodd Thomas Jones ei "Ie priodol gan y Methodistiaid a'r Cymry", dyma gyfle newydd i ymgydnabyddu ar gwr a ddylanwadodd gymaint ar ei gyd-grefyddwyr a'i genedl.