Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hau, cymwynas fawr fu cywasgu cymaint o wybodaeth i 59 tudalen. Y mae yn y gyfrol hefyd ddarluniau o'r tri gwrthrych, yn ogystal â darluniau o'u cartrefi, a'r rhai olaf yn dystiolaeth ychwanegol i fedrusrwydd celfyddydol Ifor Owen. R. G. WILLIAMS (1) STORÎAU DIFYR, gol. gan J. D. Jones. Gwasg Aber- ystwyth. 5/ (2) BROC M6R, drama un act, gan John R. Evans. (3) BORE GWLYB, drama un act, gan William Owen. (4) Y CROCHAN, drama un act gan G. M. Ashton. Gwasg Gee. 1/6 yr un. (1) Dyma ail gyfrol o storïau o dan gynllun llyfrau Pwyllgor Addysg Sir Aberteifi, a haedda'r pwyllgor ein diolch a'n cefnogaeth am yr antur hon. Llyfr o straeon difyr iawn i'r plant ieuengaf ydyw, dwy stori ffansi am wennol a arhosodd yn y wlad hon, ac am gath, a geir i ddiddori'r plant lleiaf. Yna ceir stori am hogyn bach direidus a'i helynt gyda'r gaseg a'r hwch, heb anghofio'r sgŵl; a gorffennir â dwy stori ddetectif sydd wedi eu gwau yn swynol a chelfydd i blant. (2) Dyma ddrama fer dda i bedair merch. Gofyn am actor- ion gweddol brofiadol i roi mynegiant llawn i'r suspense sy ynddi, ac i gyfleu yn union awyrgylch bwth pysgotwr ar noson storm ym Mae Ceredigion. Bydd cwmnïau bach ar eu mantais o'i dysgu a'i chyflwyno. (3) Drama gelfydd wedi ei seilio ar un 0 lythyrau "Rebeca" o lyfr R. T. Jenkins, Y Ffordd yng Nghymru. Fe ddigwydd y chwarae yn swyddfa cyfreithwyr, a cheir pedwar o gymeriadau, tri mab ac un ferch, a chedwir y gyfrinach drwodd i'r diwedd. Da cael dramâu byrion o'r natur yma, sy'n ddarlun o ddigwydd- iadau yn hanes Cymru. Drama flasus ei deialog, cynnil ei phlot, ac yn hawdd ei llwyfannu. (4) Drama fer hwyliog ac ysgafn i naw o gymeriadau. Mae'r ddeialog yn ystwyth, a'r symud drwyddi yn fywiog. Ymdry'r ddrama o gwmpas hen chwedl am ddewin a ddaliodd leidr mewn plasty drwy ei gyfrwystra, yn defnyddio crochan a cheiliog. Clywsom stori gyffelyb am Robin Ddu Eryri erstalwm, a gwelais ddrama fer i blant ysgol yn cael ei chyflwyno, gan gysylltu'r Robin hwnnw â hi, ond yn y ddrama hon Twm o'r Nant yw'r Dewin, neu'r Dyn Hysbys. Be wnawn ni? Gresyn creu unrhyw gam argraff am Twm o'r Nant na Robin Ddu. Lleolir y ddrama yn y De ddiwedd y ddeunawfed ganrif. ALON o. JONES