Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FY NOFEL AFLWYDDIANNUS GAN ISLWYN FFOWC ELIS Y MAE priffordd y nofel Gymraeg yn frith gan gyrff nofelwyr a laddwyd gan adolygwyr angharedig. Mae hynny'n drueni ac yn golled i genedl mor fechan â'n cenedl ni. Mae'n wir fod adolygiadau pur giaidd wedi'u sgrifennu ar ambell nofel Gym- raeg, ond ni ddylai nofelydd sy'n sicir o'i genhadaeth adael i un- rhyw adolygiad ei wthio i ebargofiant yr ysgrifbin sych. Yn hyt- rach dylai ddarllen pob adolygiad â phen oer a chalon ysgafn, a dysgu oddi wrtho, ac yna'i anghofio. Y mae ef yn werthfawr- ocach i'w genedl nag yw'r adolygydd. Fe ellir dysgu adolygu. Rhaid geni nofelydd. Fodd bynnag, yr wyf am gymryd y cyfle hwn i ddatgan fy nghred fod adolygu yng Nghymru wedi gwella'n ddirfawr er y rhyfel. Y mae ymdrechu mwy cyson yn awr i edrych ar lyfr yn gyfanwaith ac i'w brisio fel darn o gelfyddyd. Y mae'n bwysic- ach bellach mynd i berfedd llyfr, a cheisio darganfod pam y mae'n llwyddiant neu'n fethiant, na chyfrif pa nifer o wallau argraff ac idiomau Seisnig sydd ynddo. Pwysicach na hynny, hyd yn oed, yw fod adolygwyr yn dysgu canmol a chondemnio'n wrthrychol heb ystyried crefydd neu wleidyddiaeth neu gymeriad yr awdur yn gysgod ar ei waith nac yn esgus dros ei ddiffygion. Mae'n dda gennyf ddweud fod fy meimiaid llymaf i hyd yma yn wyr o'r un gwersyll gwleidyddol â mi fy hun. Darfu, gobeithio, am y dydd pan gondemnid gwaith llenor am ei fod yn elyn gwleidyddol neu'i ganmol am ei fod yn perthyn i'r un enwad. Ond peidiwch â chredu llenor sy'n dweud nad yw adolygiad anffafriol byth yn ei frifo. Y mae awdur sy'n darllen adolygiad yn darnio'i lyfr diweddaraf yn debyg (i raddau llai, wrth reswm) i dad yn gwylio lladd ei blentyn o flaen ei lygaid. Teimla ar y funud fod blwyddyn neu ddwy o lafur cariad a magu gofalus wedi mynd yn ofer, a themtir ef ar y pryd i ddweud nad yw byth am ysgrifennu llyfr eto. Ond fe ddylai gofio dau beth. Un ydyw y gall y cwsmer fod yn iawn, mewn siop lyfrau fel mewn siop groser. A genau'r cwsmer yw'r adolygydd. Y llall ydyw y dylai ef, wedi darllen pob adolygiad ar ei lyfr a'u pwyso 011 ynghyd, gael rhyw syniad eglurach am ei ragoriaethau a'i ddi- ffygion ef ei hun fel llenor, a sgrifennu'i lyfr nesaf yn well yn hytrach na rhoi'r gorau i sgrifennu'n gyfan gwbwl.