Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEUNYDD GAN MATHONWY HUGHES A/T^ bro rhwng môr a mynydd heb arni staen na chraith", medd R. Williams Parry am Eifionydd, lle mae "blas y cynfyd yn aros fel hen win". Nid yr Eifionydd hon, "sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan", lle ceir "llonydd gorffenedig" y Lôn Goed, er ei chystal, fydd yn cydio fwyaf ynof i, ond yn hytrach y rhan honno o Eifionydd y sonia Alafon amdani yn ei "Fwlchderwin". Nid af i byth i olwg y fawnog o wlad sy'n ymestyn o'r Grae- anog drwy Ynys yr Arch a Chors y Felog hyd Fwlchderwin heb deimlo fod y lle yn cydio ynof. Nid oes yno goed, er cystal gennyf goed. Nid oes yno chwaith ysgythredd craig na harddwch clogwyn, er mor wych yw pethau fdly. Nid oes yno ddim ond gwastad o weunydd a mawnog am filltiroedd rhwng dau orwel, heb ddim i dorri ar y tawelwch ond ambell drên yn mynd trwodd ac aeth hwnnw bellach yn rhan o'r Ile. Pryd bynnag yr af i'r Eifionydd hon, byddaf yn teimlo fod y lIe am fynnu fy nal. Gallaf fod yno drwy'r dydd heb gyfrif yr oriau na chofio fod rhaid troi'n ôl. Pam, ni wn. Byddai gan weunydd a chors a mawnog ryw afael ryfedd arnaf pan oeddwn blentyn. Cofiaf mor anial ac mor unig fyddai'i tair milltir o ffridd a chors i'w cerdded yn ôl a blaen i ysgol y mynydd. Mor glir, bryd hynny, fyddai cri'r gylfinir. Mor agos atom y byddai twît y gornchwiglen. Mor wyllnosol fyddai cryg- alwad aderyn yr hwyr o gors pan fyddai'r dydd yn byrhau. Ar- swydem rhagddo. Byddai blas ar swper a chlydwch wedi cyrraedd adref ar adeg felly. Cofiaf am lawer gwyllnos o Fai tywyll pan fyddai'r awel oer yn plygu plu'r gweunydd ac yn brathu i'r byw blentyn y tyddyn mynyddig wrth iddo gyrchu'r buchod drwy lafrwyn a chors i'w godro fin hwyr. Byddai'r peth yn felys o brofiad o gofio fod aelwyd gynnes yn dilyn pob noswyl. Ac eto, ni bu gan weunydd mebyd unrhyw afael arnaf byth wedyn. Pan ddigwyddaf fynd hyd-ddynt yn awr ni ddaw byth ias o'r hen hyfrydwch a brofwn gynt. Collodd pob ffridd a chors ym mro fy mebyd ei swyn i mi. Aeth pob gwaun yn llai a phob clawdd yn is. Diffeithdir di-liw, diystyr, ydynt i ẃr canol oed- plisgyn i'm hatgoffa o fywyd a fu.