Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hynny a dim arall, o bosibl, yw'r rheswm nad oes gan yr hen lwybrau a'r hen lechweddau ryw lawer o graff arnaf mwy. Coll- asant eu gafael arnaf wrth fynd yn hen. Na, nid hwy sydd wedi heneiddio, ond myfi. Nid arnynt hwy y mae'r bai. Y blynydd- oedd sydd wedi fy newid i-dyna'r drwg. Nid oes fro mebyd ond mewn atgof amdani. Darn mawr o'r gorffennol ydyw. Ond y mae'n rhaid wrth fwy na'r gorffennol i tyw amo. Mae gwin yn y gorffennol; bid siŵr, eithr y mae gwenwyn yn y gwin. Y mae atgof yn felys am mai atgof ydyw, dyna'r cwbl, Ond am y wlad o weunydd sy'n ymestyn drwy Fwlchderwin hyd Lan Dwyfach, ym mwlch Eifionydd, y mae gan dawelwch a thu- hwntrwydd honno afael ddi-ollwng arnaf. Ni fethodd erioed â'm dal. Ni fetha fyth. Pam? Peidiwch â gofyn i mi. Ni wn. Ond gwn fod yno gylfinir a phlu'r gweunydd dros fawneg, ac na tharfwyd mo'r gornchwiglen o'r brwyn. AMWYTHIG-Dylwn rybuddio fy narllenwyr ei bod hi bob amser yn llawer diogelach dweud pethau cyfrinachol yn Gymraeg mewn caffi yng Nghaerdydd nag yn Amwythig. Bydd Pwyll- gorau'n ymgymysgu yn yr ystafelloedd hyn; y blaidd a'r oen yn cyd-bori'n hapus; Archddiacon Cantre'r Gwaelod yn adrodd stori ddigrif wrth fyrddaid o bregethwyr Annibynnol; Llywydd Cymdeithas Geidwadol Enlli yn cynnig matsen i danio sigaret Ysgrifennydd Cynghrair Comunistaidd Maldwyn a Maesyfed; Trefnydd Ymgyrch Ymosodol yr Athrawon Llaw-Fer yn estyn y fowlen siwgr yn foesgar i Drysorydd Undeb y Cyfarwyddwyr Addysg. Ac onid hyn, wedi'r cwbl, yw gwir werth y cyrddau yma? Gwenwn faint a fynnom uwch ben y llu Pwyllgorau- eto cofier mai fel hyn y byddwn yn dianc o'n neilltuedd, yn ad- newyddu hen gyfeillgarwch, yn gwneuthur cyfeillion newyddion, yn dechrau deall llawer safbwynt y buom gynt yn ddigon di- amynedd wrtho. Yn sicr, nid oes unman yn y byd lle y gallwn ni Gymry ddod i adnabod ein gilydd hafal i Amwythig. — R. T. Jenhins, yn Casglu Ffyrdd.