Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STERLING Gan E CADVAN JONES ER nad yw'r gair "sterling" yn hyn na'r cyfnod Normanaidd, ni all yr awdurdodau roddi cyfrif sicr o'i darddiad. Honnai rhai, un amser; mai talfyriad ydyw o'r gair easterling — enw ar fasnachwyr a berthynai i'r Cynghrair Hanseaidd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed— ond o'r braidd y ceir neb o'r farn hon ar hyn o bryd. Nid yw'n naturiol i Sais gwtogi gair drwy dorri'r sillaf gyntaf i ffwrdd, gan mai ar honno, y rhan amlaf, y rhydd ef ei acen. Torri'r gynffon, yn hytrach na'r pen, yw ei arfer gyda geiriau. Cynigir dau esboniad arall ar darddiad y gair. Deil rhai mai ffurf Saesneg ydyw o'r gair Almaeneg stcrlinc-darn o arian a ddefnyddid yng ngogledd yr Almaen yn y canol oesoedd. Deil eraill mai o'r gair starling y daw. Gair oedd hwnnw a ddefnyddid yn gyffredin yn nyddiau cynnar y Normaniaid am y geiniog anan, oherwydd, y mae'n debyg, fod llun seren fechan yn amlwg ar y ddelw oedd arni. O'r ddau, yr olaf sy'n swnio'n fwyaf naturiol, oherwydd nad oes yr un gair yn yr iaith Saesneg, o bosibl, y dylid ei gysylltu'n fwy arbennig â'r wlad hon, yn hytrach nag â'r un wlad arall, na'r gair sterling; a hynny am ddau reswm. 1. Sterlin;r yw'r gair a ddefnyddiwyd ers llawer blwyddyn bellach am arian parod y wlad hon o'i gymharu ag arian .gwledydd eraill y byd — boed aur neu arian neu bapur-ac y mae arian y wlad hon wedi ennill ei ffordd i farchnadoedd y byd ben- baladr, ac wedi bod yn fwy ei ddylanwad yn y marchnadoedd hynny ers cenedlaethau nag arian unrhyw wlad arall. Hyd yn oed heddiw, a'r ddoler Americanaidd yn fwy "hollalluog" nag erioed, nid yw sterling yn ail iddi yn ei phwysigrwydd yn y march- nadoedd cydwladol. 2. Gan mai'r wlad hon a fu'n arloesi datblygiad masnach dramor, hi a sylweddolodd gyntaf a chliriaf y pwysigrwydd o ddiogelu gwerth yr arian a ddefnyddid yn gyfrwng masnach. Dyna paham na ellir sôn am sterling heb gysylltu'r gair â'r syn- iad o ddilysrwydd a phurdeb ansawdd, a hyd yn gymharol ddi weddar honnid mai'r unig ffordd i ddiogelu gwerth arian oedd gofalu am ansawdd y metel y gwneid yr arian ohono, a gofalu hefyd fod y pwysau cywir o'r metel hwnnw ymhob darn o arian Arian oedd y metel ar y cyntaf, a phwys o arian sterling oedd y