Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymhellach, a galw am help y Gronfa Ariannol Gydwladol. Yr oedd ganddi aur a doleri wrth gefn yn honno, a bu hyn yn ddigon i achub gwerth sterling, Manteisiwyd hefyd ar y trefniant yn y Gytundeb ynglyn â'r llog a oedd yn ddyledus ar y benthyciad máwr yn union ar ddiwedd y rhyfel, i gael arbed ei dalu. (Ei ohirio a wnaed, nid ei faddau, wedi'r cwbl). Golygai hyn gadw stoc dda o ddoleri mewn llaw am rai wythnosau o leiaf. Syrthio'n ôl-ar'y Gronfa Ariannol hon oedd yr hyn a elwid ar y pryd yn "óalling in the second line of defence". Bu'n effeithiol, ac arbed- wyd y diflastod a'r golled o ostwng gwerth y bunt sterling. Er hynny, fel y gwêl y darllenydd, nid yw'r cynlluniau hyn yn ddigon i amddiffyn sterling o dan bob amgylchiad. Os bydd y bunt sterling wedi mynd i brynu llai o werth mewn nwyddau yn gyffredinol, o'i chymharu â'r ddoler, nid oes unrhyw ystryw a all ej chadw rhag goswng ei gwerth. Y mae'r un peth yn wir am y ddoler hefyd. Am fod amgylchiadau felly wedi codi y bu raid i Brydain isbrisio sterling ym Medi 1949. Byddai'n ddiddorol trafod effeithiau gostwng neu godi gwerth sterling o'i gymharu ag arian eraill, ond rhaid gadael y cwestiwn hwn. Pwnc diddorol arall yw hanes y Sterling Bloc- ei effaith ar fasnach gydwladol er amser y rhyfel, a'i arwyddocâd i fasnach y byd yn y dyfodol. Ond rhaid terfynu, ac ni ellir gwneuthur hynny'n well na thrwy bwysleisio'r egwyddor syml un- waith eto mai gwerth unrhyw arian, boed sterling neu ddoler neu jryw arian arall, yn y pen draw, yw'r hyn a geir amdano mewn nwyddau neu wasanaeth mewn marchnad-hwyrach y dylid ychwanegu hefyd mewn marchnad agored a rhydd. JOHN MORRIS-JONES.—Yr oedd yn adroddwr straeon ardderchog. Anodd yma peidio â chynnwys yr olaf a glywais ganddo, ychydig cyn ei farw. Yr oedd rhywun yn holi'r Ysgol Sul, ac yntau'n un o'r plant. Soniwyd am Lyn Genesareth, a gofynnodd yr holwr: "A oes sôn am ryw lyn arall yn y Beibl?" Distawrwydd am ennyd, yna clywid llais y bachgen dylaf oedd yno yn ateb: "Oes". "Wel?" meddai'r holwr. "Llyn Pysgod Angau", meddai'r atebwr. -T. Gwynn Jones, yn Cymeriadau.