Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R DWYRAIN GAN CYNAN (i) SGROLIAU'R M6R MARW, gan Bleddyn J. Roberts Gwasg y Brifysgol. 8/6. (2) SEREN Y DWYRAIN, gan T. Elwyn Griffiths. Gwasg Gee. 4/6. GAN fod y Dwyrain Canol wedi bod mor amlwg yn y newydd- ion ers misoedd bellach, yr wyf yn sicr y bydd gan ddarllen- wyr LLEUFER ddiddordeb mewn dwy stori oddi yno a drafodir mor ddifyr yn y ddau lyfr uchod. Nid oes a wnelo cynnwys y ddau lyfr ddim â'i gilydd, heb- law fel enghreifftiau o'r hen gyfatebiaeth fod carreg a deflir i lyn tawel yn cychwyn cylch y tu hwnt i gylch o donnau, ac y gâlf ý cylch olaf ledaenu ymhell iawn o darddle y cyffro çychwynridL (1) A bod yn fanwl, nid carreg a daflwyd i iyn, ond carrég a daflwyd i ogof, a gychwynnodd gyffroadau'r stori gyntaf o'r ddwy. Yn 1941, yr oedd llanc o fugail Bedwin yn chwilota wrtho'i hun am oen colledig hyd y creigiau serth ar lan ogleddol y Môr Marw. Ar ôl bod yn dringo ac yn chwilio'n ofer am rai oriau, fe sylwodd ar hollt neu agen ddu yn y graig uwch ei ben. Tybed, a allai'r oen colledig fod yn llechu yno? Taflodd garreg i mewn i'r hollt, ond yn lle clec ddisgwyliedig carreg yn taro ar graig fe glywodd sŵn malurio llestri pridd yn datseinio'n hir trwy geudod ogof. Dychrynodd, a ffodd am ei einioes. Ond ymhen tipyn aeth chwilfrydedd yn drech nag ofnau'r llanc. Dychwelodd i'r fan, â dau fugail arall i'w ganlyn; a'r tro yma ymwthio trwy'r hollt a'ü cael eu hunain yn yr ogof. Yno gwelsant nifer o gawgiau pridd, rhai'n gyfan, ac eraill wedi eu dryllio, a sgroliau o ledr a lliain wedi eu chwalu ohonynt hyd y llawr. Dim trysor cuddiedig o emau, nac aur nac arian bath! Y fath siom wedi'r holl ludded a thrafferth Ac yn eu siom y peth cyntaf a wnaethant oedd taflu'r sgrol- iau o'r neilltu a'u sathru'n ddigon diofal. Ond yn sydyn fe wawriodd ar feddwl un ohonynt y gellid, efallai, gael rhywfaint o arian am ysbwriel mor ddi-ogoniant â hyn. Pobl ryfedd oedd yr archaeolegwyr o Ewrop ac America-rhai ohonynt yn barod i ?loddio am flynyddoedd ymhlith adfeilion hen ddinasoedd Palesteina, ie, ac i dalu arian da i lafurwyr Arabaidd am eu helpu