Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arfog, gan fod yna lawer o'r Cymry a ymhyfrydai ganmil mwy mewn Eisteddfod a Chymanfa Ganu nag mewn Cyngherddau Saesneg ail-raddol E.N.S.A. neu recordiau jazz aflafar Ond rhaid oedd i'r Cymry druain osod trefniadau am adloniant ar waith eu hunain os oeddent am rywbeth â naws ac ysbryd Cymreig ynddo Bydded y camsyniadau a'r anghyfiawnderau a fu yn wers fythgofiadwy inni". Wel, diolch am sblais y garreg yna ar wyneb llyn y difater- wch swyddogol. Ysgrifennwyd y cyflwyniad i'r gyfrol gan Ifan ab Owen Edwards, a dyma un o'i gwestiynau i ni: A yw bechgyn a merched ifainc Cymru heddiw yn ym- wybodol o Gymru fel y daeth ein bechgyn yn ymwybodol ohoni yn llaid y Somme ac yng nghras dywod y Dwyrain? Nid achubir y genedl oni ddaw ei phobl ifainc i'w charu yn syml, yn ddidwyll, ac yn angerddol. POPETH FEL ARFER GAN T. E.. NICHOLAS PAID â phryderu, fy nghyfaill, pan lithri i'r beddrod Daw'r machlud fel arfer, a chyfyd yr haul yn ei dro, Llenwir y bryniau â therfysg brefiadau heddrod, Daw bechgyn a merched fel arfer i rodio'r fro; I goed y fforestydd daw dail, ac i'r gerddi flodau, A chlywir adar a phlant a'u gorfoledd pêr, A llithra'r nentydd i gafnau rhwyllog y rhodau, A chlywir terfysg di-swn o bellteroedd y sêr. Popeth fel arfer, a thithau yn gorwedd yn llonydd, Mudiadau a geraist yn camu'n hyderus ymlaen, Bywyd yn gynnwrf ym mrigau hamddenol y lonydd, Ac angel bywyd yn daclus ar oerni'r maen: Popeth fel arfer pan syrthi i afael angau Fel ffrwyth goraeddfed yn syrthio o wychder cangau.