Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prin y, cawn gyfeiriad at Gymro yn ymwneud â dysg yn UDA cyn dyfodiad y Crynwyr i Pennsylvania o gylch 1681, a dyddiau sefydlu'r SPG (Cymdeithas er Taenu'r Efengyl mewn gwledydd tramor) o gylch 1699. Cawn gryn dipyn o gyfeiriadau at ysgolfeistri Cymreig yn y cyfnod 1702-1726 yn ymlwybro i le- oedd diarffordd yn nhaleithiau Dwyrain America. Ychydig iawn ­neu ddim-a gyfrannodd y Crynwyr Cymreig at addysg fel y cyfryw yn ystod eu 15 mlynedd cyntaf; ac os codid rhyw fath o ysgol, ysgol a ddysgai ar lafar oedd, gan nad oedd un math o lyfrau i'w cael, ac ni chaniateid eu hargraffu yno. Yn y cyfnod 1660-1700, nid oes amheuaeth nad oedd cyfraniad y Cymry at amaethyddiaeth a gwleidyddiaeth a chrefydd America yn enfawr. Ond rhaid cofio fod trefn wleidyddol y taleithiau yn America y pryd hwnnw yn union ar yr un cynllun ag a ydoedd yn Lloegr a Chymru-gofalu fod digon o lywodraethwyr plwyfol, sirol a thaleithiol i gario ymlaen gynlluniau ceidwadol Lloegr yn y rhan- nau hynny o'r byd. O droi cofnodion a dogfennau America ynglŷn â gweinyddu llywodraeth blwyfol a sirol a gwladol, gwelir eu bod yn cytuno â'r hyn a geir yn llyfrau'r festri yn y wlad hon, a llyfrau'r Chwarter Sesiwn, a chofnodion Senedd Lloegr. Cymynwyr coed yn hollol oedd yr Americanwyr i'r Llywodraeth- wyr Seisnig yn Llundain. Dyma fanylion am rai o'r Crynwyr, a'u hysgolion a'u colegau John Cadwaladr a aned o gylch 1677-78, yng Nghiltalgarth, ger y Bala, gŵr a gafodd ei addysg mewn ysgol yng Nghymru, ac a ymfudodd i Pennsylvania yn 1697. Codwyd ef yn athro yn ysgol Gyhoeddus y Crynwyr (Friends' Public School), Philadel- phia, ar Ionawr 29, 1700, a chymeradwywyd ef gan y meddyg enwog Griffith Owen fel athro cynorthwyol. Bu yno hyd Orffen- naf 1705, pryd y cafodd ei dderbyn yn ddinesydd, ac o 1718 hyd 1733 yn aelod o Gyngor y Ddinas, ac yn aelod o Asembli Pennsyl- vania yn 1729. Bu farw Gorffennaf 23, 1734. Rhaid cofio fod y rhan fwyaf o'r Cymry a ymfudodd o Gymru i Pennsylvania wedi cael addysg, a llaweroedd ohonynt yn abl i sgrifennu yn Gymraeg ac mewn Saesneg rhugl, ac eto ni chawn eu bod yn rhyw selog iawn yn codi ysgolion yn y dalaith honno. Wrth gwrs, yr oedd degau ohonynt yn amlwg mewn bywyd cy- hoeddus, ac ym mudiadau'r Dalaith. Er iddynt ymsefydlu yno cyn gynhared â 1682, ni chawn y Crynwyr cynnar yn symud ynglyn ag addysg hyd 1697. Ymhlith deisebwyr am Siarter Ysgol