Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MENYWOD Gan EMRYS EVANS SUT y daeth o laswellt a gwrychoedd y ddôl i balmant caleda llwyd y dref, Duw yn unig a wyr. Eisteddai'r llygoden— Llygoden y Maes-ar. ei dwy goes ôl ar y palmant, gan "ymolchi" ei hwyneb â'i dwy bawen flaen, a'i chynffon yn hanner cylch y tu. ôl iddi.. Yr oedd prysurdeb y bore yn llifo yn ôl ac ymlaen heibio iddi ar y stryd-yn ferched, gan mwyaf. Pob un bron â basged neu gwdyn ar ei braich; rhai yn weigion a u negeseuau i'w gwneud, eraill yn llawnion, a'u cludwyr yn prysuro adre i baratoi cinio. Rhyfedd na fuasai rhywfaint o ofn ar y llygoden. Ond nid oedd prysurdeb y ffordd fawr yn mennu dim arni, na fawr neb wedi sylwi arni hithau ar y palmant;-neb, ac eithrio un, sef dyn a safai yn nrws siop gyfagos. A'i bwys ar gongl ffenestr y siop, ei ddwy law ym mhocedi ei drowsus, a sigarèt yn llipa hongian o'i wefus, syn wyliai'r llygoden. Ni symudai na bys na bawd, dim ond syllu a syllu yn syn a di-nwyd. 'R oedd cap stabal am ei ben â'i big wedi ei dynnu dros un llygad. Hongiai ei gôt fawr yn llipa a di-lun amdano, gan gyrraedd bron iawn at flaenau ei draed fel y pwysai ymlaen ar gongl y ffenestr. Bu felly yn ddisymud er pan lithrodd y llygoden i'w olwg., Ni symudodd ewin wrth iddi fynd ychydig gamau yn ôl ac ym- laen ar y palmant, a sefyll ar ei thraed ôl ac "ymolchi" ei hwyneb. Ni ddangosodd arlliw o deimlad wrth syllu yn syn arni; ni? ddangosodd iddo ddotio at lyfnder ei blewyn, at y llygaid mawr didwyll, a'r clustiau teneuon. Ni welodd yr hyn a yrrodd y bardd i ddweud,- Nor shell-pink ear nor fiuttery nose, Nor dainty fan of milk-whìte toes, Nor taper tail betrays where she, The little wood-mouse, watches me. Eithr parhau i syllu a wnâi'r dyn. Yna gwelwyd y llygoden gan ryw ferch. Wedi'r wich-sgrech arferol, a ddaeth â phresenoldeb a chyflawn sylw y rhai oedd agosaf ati, mewn ychydig eiliadau yr oedd hanner cylch o fenywocî o gwmpas y llygoden.