Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

aniaeth. Yna trodd a cheisiodd ei ffordd yn ôl i'r tYJJ i'w chlustog a'r tân. Gafaelodd gwraig y tŷ ynddi eilwaith. "Hwdiwch!" Cymerodd y fenyw y gath a'i chario yn orfoleddus fuddugol- iaethus hyd o fewn rhyw ddwy droedfedd i'r llygoden yn ei chongl. Rhoddodd y gath i lawr, i wynebu'r llygoden, a dal ei phen i'w chyfeiriad fel na allai beidio â'i gweld. Gwyliai'r menywod yn fanwl y gath a'r llygoden, gan ddal eu hanadl a'u gafael yn dynn yn eu basgedi a'u cydau. Goll- yngodd y fenyw ei gafael ar y gath, a chydag un llam yr oedd y llygoden yn ei safn. Aeth rhyw ochenaid oer drwy'r hanner cylch menywaidd. Chwerthodd rhai ohonynt-chwerthiniad di-hiwmor, chwerthin g'neud. Trodd y gath a llithrodd efo'r mur ac o'r golwg heibio i gongl, ac ni ellid gweld o'r llygoden ond ei chynffon yn hanner cylch, a'i phedair "milk-white toes". Gwasgarodd y menywod bob un i'w ffordd, ac yn fuan llifai prysurdeb y ffordd fawr fel cynt. Ac, fel cynt, syn syllai'r dyn a'i bwys ar gongl ffenestr y siop, ei sigarèt yn hongian o'i wefus, ei gap dros un llygad, a'i gôt fawr bron cyrraedd blaenau ei esgid- iau. Syllai ar yr un darn o balmant caled a llwyd-ond gwag. Nor shell-pink emr nor fluttery nose, Nor dainty fan of milk-white toes, Nor taper tail. Anifail pwysicaf y fferm oedd yr ych yn yr hen fyd. Un o golofnau cymdeithas oedd. Fe barhaodd yr arfer o' ofyn bendith ar yr ychen drwy'r canrifoedd, a cheir adleisiau ohoni mewn llen- yddiaeth. Ceir olion hyn yn ein dyddiau ni hefyd. Yn 1926 yr oeddwn i yn helpu ffermwr yn Nyffryn Golych, Morgannwg, i droi nifer o fustych i borfa newydd, ac wrth iddynt fynd drwy'r llidiard fe gododd y ffermẃr ei het gan ddweud, "bendith arnoch i gyd". Arferai ei dad wneud yr un peth gyda'i ychen gwaith, meddai'r ffrermwr wrthyf, ac fe gadwai yntau'r arfer ynglŷn bustych "rhag ofn —Ffransis G. Payne, yn Yr Aradr Gymreig.