Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MOR A'I GYNNWYS GAN W.J. A MARGARET WILLIAMS DRO yn ôl gofynnwyd imi beth a gyfrifai am fy niddordeb yn astudio "Bywydeg y Môr" mewn dosbarth WEA. Y mae amryw resymau; un ohonynt yw fod bro fy mebyd gryn bellter oddi wrth y môr, ond anaml y cawn fynd at ei lannau, a hynny yn ystod yr haf yn unig. Er na wyddwn fawr am y môr a'i gyf- rinachau, yr oedd ynddo ryw swyn rhyfedd i mi, ei aflonyddwch di-baid, atgof am ei swn yn nail y coed yn y nos, a'i ehangder di- derfyn i ddychymyg plentyn wrth syllu tua'r gorwel pell oddi ar y dibyn. Er treulio blynyddoedd ymhellach fyth oddi wrth y môr, glynai ei gyfaredd yn fy meddwl o hyd. O'r diwedd deuthum i drigo o fewn cyrraedd glan y môr, a dwysâwyd diddor- deb bore oes eilwaith pan sefydlwyd Dosbarth Tiwtorial i drafod y môr a'i ddirgelion. Dyma'r cyfle, ac ymunais yn ddi-oed i weled a gwrando ar Athro cyfarwydd yn egluro a dangos inni rai o gyfrinachau rhyfeddol y môr, a'i gynnwys. Gan mai fferm oedd fy hen gartref, meddyliwn fel llawer eraill mai ar y tir y tyfai pob porfa a bwyd i ddyn ac anifail, heb ymholi fawr ddim sut y câi'r pysgod eu cynhaliaeth oddieithr fod rhai ohonynt yn bwyta'r lleill. Syndod i mi ar y cyntaf oedd clywed yr Athro yn disgrifio y meysydd enfawr o borfeydd sydd yn gorchuddio cannoedd o filltiroedd o arwynebedd y môr, a rhannau o'r ffermydd enfawr hyn yn llathen o drwch. Math o lysiau ydynt, ond yn rhy fychain i'w canfod yn unigol gan y llygad dynol. Ond yn eu trwch a'u hamledd dirifedi ym- ddengys y môr yn wyrdd, melyn a choch. Ymhlith y llysiau ceir nifer dirifedi o wyau pysgod, a physgod ieuainc, y rhan fwyaf ohonynt yn annhebyg iawn i'r hyn a fyddant wedi dod i'w llawn dwf, ac yn rhy fychan i'w hadnabod heb gymorth chwyddwydr. Gelwir y gymysgfa hon o lysiau ac anifeiliaid yn plankton, sef crwydriaid, oherwydd crwydrant o fan i fan trwy rym y llif a'r awel. Dyma borfa fras y pysgod a chreaduriaid eraill, o'r lleiaf hyd at y morfeirch mawrion. Wrth gwrs, fe adawodd rhai pysgod y pori syml, ac fel rhai o fwystfilod y tir troesant i fwyta ei gilydd. Darganfyddiad di- weddar ydyw fod sŵn byddarol gan lawer o bysgod yn yr eigion. Weithiau clywir swn a ddisgrifir fel cerddorfa'n tiwnio ei hoff- erynnau, bryd arall fel griddfannau ac ochneidiau ysbrydion