Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

KATE ROBERTS, NOFELYDD GAN DAFYDD JENKINS "LLE cest ti'r hen enw gwirion yna?" (sef Derith) ebe'i hewythr wrth Lora Ffennig yn Y Byw sy'n Cysgu (Gwasg Gee, 10/6)— -a Lora'n ateb "Mae o'n enw Cymraeg"; eithr nid enw Cymraeg yw ef, ond enw gwneud-ac enw gwneud gwirion hefyd, sy'n awgrymu'n gynnil ryw wiriondeb yn y rhieni a'i dewisodd. Mae Rhys, enw'r mab, yn enw Cymraeg da-ond nid yn enw traddodiadol yn Sir Gaernarfon (ni waeth heb ddweud Sir Aberentryd); rhieni a chanddynt ryw ymdeimlad â thraddod- iad Cymreig ehangach na'r traddodiad lleol a ddewisodd hwn. Ond enwau traddodiadol y fro sydd ar blant chwaer Lora, yn ei hen gartref-Margiad, a Guto, a Now Bach. Gellid ychwanegu o lyfrau eraill Kate Roberts enghreifftiau ddigon o'r modd y mae hi'n dewis enw sy'n addas i gymeriad: Bertie yn Traed mewn Cyffion, enw Seisnig ffasiynol yn ei ddydd, hynod gymwys i'r "dili-do o rywbeth" a briododd â Sioned, ac Eric eu mab; neu Williams yn y stori fer Y Golled. Ond yn y ddwy nofel ddiweddar, Stryd y Glep ac Y Byw sÿn Cysgu. mae rhai enwau na wnânt gyfraniad at y darlun o'r rhai sy'n eu dwyn. Wrth ddarllen y nofelau hyn bûm yn dyfalu'n hir beth oedd amcan Kate Roberts wrth lunio enwau fel Joanna Glanmor, Dan Meidrym, Lora Ffennig a Mrs Amred. Efallai fod y cyfaill hwnnw'n iawn a ddywedodd mai ofni'r oedd hi y byddai'n en- llibio rhywun petai hi'n rhoi enwau Cymreig posibl ar gymer- iadau fel y rhai arbennig hyn; neu efallai ei bod hi'n ceisio rhoi arnynt enwau na byddent yn awgrymu dim amdanynt, er mwyn i'w gweithredoedd a'u dywediadau lefaru drostynt eu hunain yn fwy diragfarn. Ni wn i, ond beth bynnag oedd yr amcan, ni chredaf fod yr arbrawf hwn wedi'i gyfiawnhau. Rhyw fath o arbrawf sy'n cyfrif am yr enwau dieithr hynny, ond nid arbrawf sy'n cyfrif am yr enw hynotaf yn holl waith Kate Roberts-sef Mr Jones y Gweinidog. Sonnir am Mr Jones y Gweinidog yn Stryd y Glep ac yn Y Byw sy'n Cysgu: mae'r, debyg na fwriadwyd inni dybio mai'r un gŵr sydd yn y ddau lyfr, a bod y ffaith mai'r un enw sydd ar y ddau weinidog yn arwydd o ddiffyg diddordeb yr awdur ynddynt. Yr oedd rhaid iddi wrth ryw fath o weinidog i gyflawni rhyw swydd fach yn y storîau; ond nid oedd ganddi ddigon o ddiddordeb ynddo i'w wneud yn fath arbennig o weinidog. Gwahanol iawn yw gweinidogion Islwyn Ffowc Elis, Tynoro Thomas, Sirian Owen, GarethEvans.