Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SILYN A HUW T. GAN CARADOG JONES (1) SILYN (R. Sityn Roberts), i8j i- 19 30, gan David Thomas. Gwasg y Brython. 7/6. (2) TROS Y TRESI, gan Huw T. Edwards, Gwasg Gee. 10/6. NI wn a ddylai adolygiad fod yn ddiduedd ai peidio, ond gwelwch yn bur fuan mai ysgrif yw hon gan edmygydd a gafodd y fraint o gydweithio o dro i dro â'r naill a'r llall. Ni allaf ond hynny. Dyma o'r diwedd agor y maes ar ddarn o hanes cymdeithasol Cymru yn nechrau'r ganrif, a chroniclo'r ymysgwyd cymdeithasol ymysg gwerin ein broydd wedi'r rhyfel cyntaf; yr ysbryd a fynnai "loywach nen" a'r elfen economaidd yn ymdoddi i'r ymwybod politicaidd. Troes yr ymdeimlad hwn yn ffrwd o weithgarwch sydd erbyn hyn wedi gweddnewid ein cymdeithas economaidd, a dyna i mi arwyddocâd arbennig Silyn a Huw T. Diddorol ac arwyddocaol yw sylwi ar gefndir cynnar y ddau -y naill fel y llall â'i wreiddiau yn y gymdeithas o dyddynwyr gwledig. Cymdeithas arloeswyr syml yn dygn rwygo bywoliaeth wael o fastir oer eu ffriddoedd, gan fynnu egwyl wedi dydd o waith i grwydro'n flin i oedfa a chymdeithas, ac wynebu'r pro- blemau yno â'r un graen a dygnwch ag a geid ar y ffridd gartref. Cofiaf Silyn fwy nag unwaith yn dangos imi yn y pellter fwthyn Brynllidiart ar lechwedd y cwm, ac ni allwn innau beidio â theimlo'r ias o gyffro ac o'r balchder bonheddig a'i cyffyrddai. Erbyn heddiw, gallaf sylweddoli yn llawer gwell gymaint a welai ef ar y llechwedd llwm a oedd yn anweledig i mi. Ni welais Ben-y-cae na Phen-y-ffridd, ond mi glywais Huw T. yn sôn am- danynt, ac nid oes raid ond gwrando ar y ffordd y mae'n eu dywedyd i ganfod y rhin a fu yno. (1) Ac wele o'r diwedd gyfrol goffa Silyn, ac ni wn am neb a allai wneud y gwaith fel David Thomas. Nid yn gymaint oherwydd y graen a'r manylder gonest a nodwedda'i waith-ae a fyn gan eraill, yn anffodus i rai ohonom-ond oherwydd ei gy- sylltiadau arbennig yntau â'r mudiadau afrifed y bu Silyn yn gymaint arloeswr iddynt.