Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS ER gwaethaf pob ansicrwydd, cafwyd tymor llwyddiannus iawn eto. Bu'r Swyddfa Dogni Petrol yn barod i'n helpu i gael petrol i gario'r gwaith ymlaen, er yr anawsterau a achoswyd ar y dechrau drwy'r dogni. Yn wyneb y trafferthion gwnaed ymdrechion arbennig gan ein hathrawon a'r ysgrifenyddion lleol. Credaf fod her y peryglon wedi gwefreiddio'r aelodau a'u symbylu i ddal yn gyn- dyn at weithgareddau'r Mudiad. Yn ychwanegol at y dosbarth- iadau ffurfiol, cynhaliwyd llawer iawn o gyfarfodydd gwirfoddol, megis Ysgolion Undydd, Darlithiau Arbennig a Seiadau Holi. Cefais y fraint o ymweld ag amryw o'r dosbarthiadau. Min- ffordd yn ymdrin â Dyfnallt noson olaf y tymor, ac wedi'r ddar- lith a thrafodaeth frwd cafwyd swper, wedi ei drefnu gan y chwiorydd. Glan Conwy'n ymdrin â materion arian a chredyd, ac mewn, penbleth ynglŷn â gallu'r banciau. Géllilydan yn astudio Trosedd a Chosb, a Thal-y-sarn yn trin agwedd arall ar y Gyfraith. Dosbarth newydd yn Aber, ger Bangor, yn trafod Y Dwyrain Canol­nid yn adeg y Brenin Hussein a Nasser, ond yng nghyfnod lledaeniad cynnar Cristionogaeth; a Llansadwrn yn astudio datblygiad Diwylliant Gwerin, ac yn cael hwyl anar- ferol arni. Tra'r oeddwn yn sgwrsio â'r aelodau ar y diwedd, deuthum o hyd i gyfaill yno a fuasai'n gyd-ddisgybl â mi yn Ysgol Ganol y Blaenau, o dan John Mörris, cyn-Arolygydd Ysgolion erbyn hyn. Brodor o Drawsfynydd oedd fy nghyfaill, a byddai'n dod i'r ysgol gyda'r trên Cawsom sgwrs ddifyr iawn am yr hen amser. Dosbarth newydd wedi cychwyn yn Tudweiliog, a Tom Nefyn Williams yn darlithio ar "Ni ein Hunain", dosbarth o bobl ieuainç, y rhan fwyaf ohonynt. Llangybi yn myfyrio, os nad yn synfyfyrio, ar ryfeddodau yr Atom, a Dosbarth Bryn-y- maen yn cael gwledd a swper, ac itemau gan yr aelodau ar ôl gorffen cwrs hynod o ddiddorol ar Broblemau Cefn Gwlad. Y mae'r gwaith addysgol gyda'r undebwyr llafur ar gynnydd cyson. Cynhaliwyd Ysgol Fwrw Sul wych yng Nglynllifon ar "Y Gyfraith ac Undebaeth", a Huw Eifion Roberts yn darlithio. Ar ôl swper Nos Sadwrn cafwyd Seiat Holi ddiddorol dros ben, ac aelodau o'r Ysgol ar y Panel. Yr oedd yno 42 o undebwyr yn bresennol.