Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY YR ydym yn awr ynghanol Cyfarfodydd Dathlu ein Jiwbili. Ysgrifennaf y nodiadau hyn ychydig ddyddiau ar ôl ein cy- farfod cyntaf, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Ddydd Sadwrn, Ebrill 13, Wedi i Arglwydd Faer Caerdydd, D. T. Williams, groesawu'r prif siaradwyr a swyddogion y rhanbarth i ginio, buom am beth amser yn edrych ar Arddangosfa Gelfyddyd y WEA. Gwaith ein dosbarthiadau ym Mhort Talbot a Chastell Nedd oedd hon. Bu Athro'r dosbarthiadau, Andrew Vicari, yn brysur drwy'r bore yn hongian y peintiadau a'r lluniau, a chwmni o gynorth- wywyr ewyllysgar yn ei gynorthwyo. Y peth a synnodd y rhan fwyaf o'r bobl a'i gwelodd oedd fod gwaith mor rhagorol wedi ei wneud gan fyfyrwyr cyffredin o blith y gweithwyr, heb fod yr un ohonynt wedi cael dim hyfforddiant cyn ymaelodi yn nos- barthiadau Mr Vicari ar ddechrau'r tymor sydd newydd der- fynu. Llongyfarchiadau a diolch calonnog iddynt. Ystafell odidog ydyw'r Ystafell Ymgynnull yn Neuadd y Ddinas, lle y cynhaliwyd y cyfarfod. Cafwyd Anerchiad agor- iadol gwych gan Gadeirydd y Rhanbarth, Olive A. Wheeler, ac yna Anerchiad gan Asa Briggs, Athro Hanes ym Mhrifysgol Leeds, a Dirprwy-Lywydd y WEA Cenedlaethol. Siaradodd yn ardderchog. Cyferbynnodd inni'r math o gymdeithas a oedd mewn bod pan aned y WEA a'r gymdeithas heddiw. Dywedodd mai un o'r dadleuon gwirionaf a glywodd erioed oedd y ddadl fod llai o angen heddiw am addysg y gweithwyr oherwydd fod cyfundrefn ein haddysg cenedlaethol wedi gwella. Gorau yn v byd y bo addysg ysgol, mwyaf oll ydyw'r angen am Addysg o radd uchel i Bobl mewn Oed. Llefarodd Miss Ellen McCullough, Swyddog Addysg y T & GWU, a chadeirydd y WETUC, am y berthynas rhwng y WEA a'r WETUC. Yr hyn sydd arnom ei eisiau heddiw yn fwy nag erioed, meddai, ydyw meibion a merched goleuedig a deallus, a gall y WEA fod o wasanaeth mawr i'w rhoddi inni. Wedi hyn, cawsom yr hyn y teimlem oll ei bod yn Anerch- iad Mawr y cyfarfod. Am chwarter awr y parhaodd, ond yn yr ychydig funudau hynny enillodd ein cyfaill, B. B. Thomas, galon