Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY YN y nodiadau diwaethaf, soniais am ddyfodiad tri o Hwngar- iaid i Goleg Harlech. Mewn byr amser, wedi dechrau'r tymor newydd, ychwanegwyd tri eraill atynt, merch arall a dau hogyn. Ond nid dyna'r stori i gyd. Yn Nhremadog rhoddwyd llety i ryw bymtheg o'r ffoaduriaid, a theimlwyd cyn bo hir fod angen cwrs o addysg ffurfiol arnynt er mwyn eu paratoi ar gyfer eu dyfodol, ai ym Mhrydain Fawr ai yn un o wledydd y Gyman- wlad. Wedi i rai o'r cyfeillion lleol drio'u llaw ar y gwaith, daeth y fintai yn y diwedd i Goleg Harlech, ac aeth pob athro yn y coleg yn athro Saesneg am y tro. Erbyn hyn, tri yn unig o'r disgyblion hyn sy'n aros yn Nhy Nanney yn Nhremadog-mae'r lleill wedi cyrraedd Canada, ac yn llwyddo drwy gyfrwng yr iaith a ddysgwyd iddynt yng Ngholeg Harlech. Cyfeiriais hefyd yn y rhifyn olaf at yr apêl a wnaethpwyd am gymorth ariannol i gynnal chwaneg o fyfyrwyr amser-llawn yn y Coleg, ac wedi ymateb parod oddi wrth y cyhoedd caewyd y gronfa ar ôl iddi gyrraedd [600. Yn y cyswllt hwn, dylwn gyfeirio yn arbennig at ymgais nodedig merched Ysgol Ramadeg Llanelli. Un prynhawn, mewn arwerthiant a drefnwyd gan yr athrawesau a'r merched yn yr ysgol, casglwyd [118, a thrwy hyn caiff merch o Hwngari lety a chwrs o addysg yng Ngholeg Harlech. Mae gennym yn awr bump o Hwngariaid ifainc yma. ac yn ôl y rhagolygon y mae'n bur debyg y caiff y pump gyfle i fynd ymlaen i'r Brifysgol. Yn fuan wedi agoriad y tymor, croesawyd Ymryson Areithio'r BBC i Goleg Harlech. Gwrandawyd ar bump o dîmau-Coleg Diwinyddol Aberystwyth, Coleg y Brifysgol Aberystwyth, Coleg y Bala, Coleg Hyfforddi'r Merched, Gwrecsam, a Choleg Harlech. Cafwyd trafodaeth fywiog ar y testun-UMai yn ei diwydiant ac nid yn ei diwylliant y mae dyfodol Cymru". Y cadarnhaol a orfu. a dyfarnwyd mai Coleg Diwinyddol Aber- ystwyth oedd yn teilyngu mynd ymlaen i'r ornest ganlynol. Yr oedd yn amheuthun gweld Neuadd fawr y Coleg yn llawn o'r myfyrwyr o'r gwahanol golegau, a da hefyd ydoedd croesawu nifer luosog o gyfeillion y coleg a ddaeth at ei gilydd i'r ŵyl o ardal Ardudwy. Yr oedd safon y dadlau yn eithriadol o uchel,