Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION CASGLU FFYRDD,gznR T. Jenkins. Hughes a'i Fab. 9/6. YN y gyfrol hon casglwyd ynghyd ddwy ysgrif a ymddangosasai yn Y Traethodydd, saith o'r Llenor, ac un sgwrs a ddarlled- wyd. Cyhoeddwyd yr ysgrifau gyntaf rhwng 1932 a 1955. Y mae cynnwys y gyfrol yn hyfrydwch pur. Pan ddarllenais hi, fe ddug atgofion melys am y blynyddoedd pan oeddwn yn gymydog i R. T. Jenkins a W. J. Gruffydd yn Rhiwbina, yn yr adeg pan luniwyd rhai o'r ysgrifau hyn gan y naill i ymddangos yng nghylchgrawn y llall. O'u darllen eto, fe'n trewir yn bendant iawn gan ddwy ffaith. Yn gyntaf, y golled eithriadol a gafodd ein llenyddiaeth pan ddiflannodd Y Llenor; yn ail, dirywiad echrydus yr ysgrif yn y dyddiau diwaethaf hyn. Diau fod a fynno'r naill beth â'r llall. Gyda phob parch i'r ychydig gylchgronau Cymraeg (a LLEUFER yn eu plith) sy'n gwasanaethu bywyd Cymru heddiw, nid oes yn y dyddiau hyn y math arbennig o lwyfan a roddai'r Llenor i ysgrifenwyr. Ac oherwydd hynny, y mae llenyddiaeth Gymraeg yn rhwym o ddioddef. Tybed na ellir, trwy'r Cymdeithasau LLyfrau neu mewn rhyw fodd cyffelyb, gychwyn cylchgrawn a rydd yr un math o arlwy lenyddol inni ag a geid gynt yn Y Llenor? Am ansawdd yr ysgrif, cafodd ei hoes aur yn y tri-degau, a chaiff y darllenydd ieuanc weld ei llewych yn y gyfrol hon. Wrth gwrs, rhaid ei rybuddio fod Dr Jenkins yn greadigaeth arbennig iawn. Yr hyn a welir yn yr ysgrifau hyn yw llenor o ddawn ddi- hafal sydd nid yn unig yn hanesydd o farn a gweledigaeth ond sy'n berchen ar gefndir eang o'r math o wir ddiwylliant na all ein sustemau addysg heddiw, am ryw reswm, ei gynhyrchu o gwbl. Y mae gwychder yr ysgrifau hyn yn seiliedig ar etifedd- iaeth gyfoethog o Gymreictod cefn-gwlad uniaith, etifeddiaeth a roes i'r awdur eirfa a chystrawen gadarn a chyhyrrog, ac ar ddisgyblaeth yr hen ysgolion (canys y maent yn "hen" bellach) a'r prifysgolion yn y clasuron ac yn y ddysg a seiliwyd ar y ddisgyblaeth honno. Ychwaneger at y gynhysgaeth wych honno bersonoliaeth a dawn lenyddol arbennig iawn, ac fe ddechreuir deall paham v mae'r gyfrol hon yn glasur o'i bath. Darllener "Adagio'* neû "Andante" yn "Symffoni: Amwythig", a chwi ddechreuwch weld pa beth sydd yn fy meddwl wrth sôn fel hyn am gefndir o ddiwylliant. Os mynnwch flasu'r ddawn sydd mor