Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bersonol i'r awdur hwn, darllenwch y disgrifiad o'r ymchwil am Landeloy ar dudalennau 90-102. Nid oes neb arall yng Nghymru a all gyflawni'r fath wyrth lenyddol. Gwn am un darllenydd a gafodd y gyfrol hon megis dracht o ddwfr oer grisialaidd yn y diffeithwch llenyddol presennol, ac fe'i gyrrodd ar unwaith i ail-ddarllen Yr Apêl at Hanes. Mawr obeithiaf mai dyna fydd ei heffaith ar holl ddarllenwyr Lleufer, canys yn sicr ni ellwch fforddio peidio â darllen Casglu Ffyrdd. Cyflwynir y gyfrol i goffadwriaeth Thomas Bassett, un arall o'r hen gymdogion yn Rhiwbina, gwr a roes gymaint parch i'w hen grefft fel argraffydd a chyhoeddwr nas bod lllyfrau Mri Hughes a'i Fab yn ei ddyddiau ef yn batrwm o grefftwaith ar ei gorau. Ofnaf y byddai Tom Bassett yn anfodlon iawn ar grefft argraffu'r gyfrol ddiweddaraf hon a ddaeth allan o'i hen wasg. Y mae ynddi lu o gam-brintiadau, ceir nodiadau gwaelod y ddalen ar ganol ambell dudalen (ac nid bob tro ar y tudalen iawn); ac y mae tudalennau'r Cyflwyniad a'r Cynnwys, a'r mein- gefn, yn annheilwng o glasurwaith yr awdur ac o safonau Gwasg Hughes a'i Fab. Ond y mae'r ysgrifau yn drysor na ddylech ar unrhyw gyfrif ei hepgor. IORWERTH C. PEATE YN ÔL I LEIFIOR, gan Islwyn Ffowc Elis. Gwasg Aberystwyth. 10/6. Disgwyliwn lawer oddi ar law Mr Elis; dawn i greu stori gywrain, i gyfleu awyrgylch, i lunio ymddiddan naturiol, ac yn bennaf, efallai, sylwadaeth fanwl yn troi'n gamp o ddisgrifio cyn- nil ac elfen o ddychan ynghlwm wrth y disgrifio. Pwy na chyfarfu ar ei dro â rhyw Aerwennydd Francis, ac na sangodd ei droed yn Much Tooling, i nodi dim ond dau o'r gemau bach perffaith sydd ar wasgar drwy'r llyfr, yn hudo dyn yn ei flaen. Mae'r don- iau y daethom i'w disgwyl yma i gyd ac nid oes angen ym- helaethu. Nofel broblemau yw hon-ar y naill law yr ymgiprys rhwng y ddau Karl (Marx a Barth) am enaid Harri Vaughan, ac ar y llaw arall, yr ymgiprys rhwng y Cymro a'r Sais, a math 0 Sais os mynnwch. 'R wyf wedi gor-symleiddio problem Greta a Paul efallai, ond dyna'i graidd. Nid yw problemau Hani Vaughan wedi darfod ar ddiwedd y nofel chwaith; mentraf bro- ffwydo na chaiff lonydd oni ddaw yntau fel ei chwaer yn ddiogel i'r gorlan genedlaethol. Yn hyn o beth, Greta yw ei gydwybod,