Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fel y bu Karl y milwr mewn materion crefyddol. Ni allaf lai na chredu y bydd ei gyfran o waddol ei dad yn dramgwydd iddo. Ond ni charwn broffwydo yn yr achos hwn. Rhwng cromfachau yn y fan hon, carwn awgrymu nad yw'r ymddiddan bob amser mor gynnil â'r disgrifio. Mae'r cymer- iadau yn hytrach yn rhy barod i gyffesu'n gyhoeddus, blas Grwp Rhydychen fel pe tai. Fe ddywedai'r seicolegwr, mae'n debyg, fod hyn yn beth da; ar y llaw arall, gall fod yn fagl gynhenid yn y nofel broblemau. Ond i ddychwelyd at y problemau. I raddau mwy neu lai, nid ynt yn ddieithr i neb ohonom. Dywedais wrthyf fy hun ar y darlleniad cyntaf mai nofel y dosbarth canol oedd, ac nad oedd yn hyn o beth, efallai ac ysywaeth, ddim ond yn adlewyrchu'r bywyd Cymraeg cyfoes. Bu hyd yn oed y milwr Karl yn swyddog ym myddin Rommel (yn groes, mi gredaf, i gonfensiwn Genefa- Hague). Y dosbarth canol, mae'n debyg, sy'n ymboeni â phro- blemau ac eideolegau. Ond os yw'r problemau'n gyffredin ac yn neilltuol felly i'r dosbarth canol, beth a gyfrifai am fy anniddigrwydd? Gellid awgrymu fod Mr Elis weithiau'n anghofio'i swydd fel canolwr ac yn rhoi ambell gic i'r bêl, yn defnyddio'i bib fel pibydd Hamelin gynt; fod yna elfen o bropaganda yn y nofel, fod yr esboniad a ddisgwylir yn rhy amlwg efallai, fod y gwyntoedd croesion yn gostegu'n rhy rwydd. Ond nid yw dweud hyn i gyd ddim ond yn cyffwrdd ag ymylon fy anniddigrwydd. Rywsut nid oedd y problemau a'r cymeriadau'n toddi'n naturiol i'w gilydd. 'R oedd yna elfen o ddieithrwch. Wrth gwrs, nid gwyr y dosbarth canol yw Harri a Greta, ond etifeddion Lleifior, plant Edward Vaughan, hiliog- aeth yr hen fonedd o waed coch cyfa! Lleifior oedd y rhwystr. Byddai Tyddyn Dicwm neu College Road yn gweddu'n well. Peidiodd gwyr Lleifior â chymryd diddordeb yng Nghymru a'i phroblemau ers canrifoedd. Mae'n bryd inni gael y bonedd allan o'n sustem. O leiaf, dyna rywbeth i ddadlau amdano. T. M. BASSETT ROBERT ROBERTS (y Sgolor Mawr), gan T. O. Phillips. Gwasg y Brifysgol. 3/ Un arall o gyfrolau dwy-ieithog blynyddol Gwasg y Brifysgol ydyw hon, ac fe'i darperir yn arbennig ar gyfer "plant ysgol o un