Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

byddai'n debycach o afwain ei ddarllenwyr i'r lle iawn pe rhoddai "Hafod Bach, Pandy Tudur" yn gyfeiriad at gartref Robert Roberts, yn lle "Cwmcamas, ger Llanddewi, Sir Ddinbych". (Sylwaf, gyda llaw, mai "Llanddewi" a rydd T. I. Ellis wrth drafod R.R. yn y Bywgraffiadur. Ni chlywais i neb arall yn defnyddio'r enw erioed). O gofio'r cyfrolau rhagorol a geid pan wahoddai'r Wasg awduron cymwys i draethu ar eu pynciau arbennig, a'u cymharu â chynnyrch cystadleuaeth yn yr Eisteddfod, credaf y byddai'n llawer gwell iddi ddychwelyd at yr hen arfer wrth barhau'r Gyfres ddiddorol hon. FRANK PRICE jones YSGOL GÀN, gan Tom Carrington. Gwasg Gee. 2/6. Un o'r gwendidau mwyaf, os nad y mwyaf, mewn canu corawl yng Nghymru heddiw yw diffyg darllen cerddoriaeth. Gwyr amryw o arweinyddion corau pobl mewn oed am y broblem o ddysgu darn pedwar llais i'r aelodau, a'r rhan helaethaf ohonynt heb eu trwytho nac yn y Sol-ffa nac yn yr Hen Nodiant. Mae'n sicr y gellid dysgu pob llais ar y glust, ond cynllun un- donog a gwastrafflyd o ran egni ac amser yw'r cynllun hwnnw. Gellid mynd ati i berswadio'r aelodau i dreulio rhai misoedd i feistroli'r sol-ffa, a pheth dymunol a manteisiol fyddai hyn. Ond y feddyginiaeth sicraf yw dysgu'r sol-ffa i'r plant, fel y bo'r nod- iant yn tyfu'n rhan naturiol o'u haddysg a'u profiad. Os gwneir hyn yn llwyddiannus, ni bydd angen petruso am ddyfodol canu corawl yng Nghymru. Llyfr rhagorol i ddechrau ar y gwaith yw Ysgol Gân Tom Carrington. Cyflwynir y wybodaeth mewn modd syml, union- gyrchol ac amrywiol. Cynnwys y llyfr yw'r furlen sain, y furlen amser, a deuddeg gwers ar ruthm a nodau'r raddfa. Defnyddir enwau amser Ffrangeg (taa, tai-tai, etc.) yn bwrpasol; rhoddir disgrifiad eglur o ansawdd pob nodyn yn y raddfa; ac mor bwysig â dim, dengys yr awdur gryn dipyn o ddychymyg yng ngosodiad y wybodaeth. Hefyd, ceir ymarferiadau ar bob gwers. Y mae Ysgol Gân yn llawlyfr elfennau sol-ffa godidog, ac yn teilyngu sylw manwl pob un sydd yn ymwneud â dysgu cerddoriaeth i blant trwy gyfrwng y Gymraeg. Teimlir, fodd bynnag, y buasai hyd yn oed yn fwy gwerthfawr pe bai trawsgweiriadau syml wedi eu cyflwyno mewn gwersi ychwanegol, yn enwedig felly gan fod ta a fe wedi eu cynnwys yn y furlen sain, a chan fod traws-