Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Am y "Ffurf Gyntaf", bydd rhaid inni aros am drafodaeth arall gan Syr Ifor. Eisoes cawsom wybod digon ganddo i syl- weddoli mai dyma bwnc o ddiddordeb eithriadol i'r neb sy'n ymddiddori yn ein chwedloniaeth. Y mae darn o gerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin sy'n cynnwys hanesyn digyswllt ac anesboniadwy am Daliesin. Y mae Syr Ifor yn addef, wrth sôn am hyn, fod y peth yn "brofoclyd". Mae'n debyg fod Syr Ifor wedi ei brofocio droeon eraill wrth weithio ar Daliesin, a bod hyn wedi ei sbarduno i weithio ar un arall eto o'i gampau olrhain. Yr anawsterau oedd yn gwneud ymchwil yn afaelgar iddo. Llwyddodd yntau i gyfleu yma ran o ffrwyth ei ymchwil nes gafael yn nychymyg y darllenydd yn ei dro. Y mae'n debyg nad oes unrhyw bwnc mewn astudiaethau Cymraeg lawn mor astrus nac mor ddiddorol â Llyfr Taliesin a'r hyn sy'n gysylltiedig ag ef. Y mae astudio Taliesin yn gofyn ym- wneud â phob agwedd bron ar astudiaethau ieithyddol cynnar a chanol. Yn ddigon sicr, yr un ysgolhaig ar gyfer y gwaith yw Ifor Williams, a lwc ychwanegol inni yw bod ganddo'r ddawn i dros- glwyddo i ninnau ei ddarganfyddiadau mewn dull mor gyrhaedd- gar. Hiwmor sych a chyrhaeddgar oedd hiwmor Myrddin Fardd. Clywais stori dda amdano ar y radio ychydig amser yn ôl. Diolch i'r adroddwr amdani. Yr oedd deintydd ynghwmni nifer o bobl, a rhai ohonynt yn trafod Myrddin. Soniodd rhywun ei fod wedi colli pob daint yn ei ben, a dywedodd y deintydd fod ganddo obaith am gwsmer. Aeth i weld Myrddin yn ei gartref, ac wedi sôn am bopeth o dan haul, cyfeiriodd at gyflwr diddannedd yr hen wr. "Mi alla' i wneud set o ddannedd ichi a ddeil ichi am eich oes", meddai wrtho. "Mae dy well-di wedi methu, 'ngwas-i", atebodd Myrddin. Nythod y llynedd yw credoau.­Ben Bowen.