Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRY AC ADDYSG AMERICA GAN BOB OWEN III YN sgil Cymdeithas Taenu'r Efengyl mewn Gwledydd Tramor (SPG), a'r Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristion- ogol (SPCK), y dechreuwyd o ddifrif geisio chwyldroi addysg yn yr Unol Daleithiau. Serch bod yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a'r Crynwyr wedi gwladychu yno ers ugeiniau a deugeiniau o flynyddoedd, a mwy, cyn cyfnod y mudiadau uchod, eiddil iawn oedd eu cyfraniadau at addysg, oherwydd, fel y mynegwyd yn fy ysgrifau blaenorol, i'r Llywodraeth yn Westminstr roddi pob atalfa ar ffordd cyn- nydd a gwybodaeth. Cafodd y sectau uchod hwyl led dda ar sefydlu achosion iddynt eu hunain, ond cedwid llygaid eryraidd arnynt, rhag achosi un dim a fyddai'n milwrio yn erbyn Eglwys Loegr, a rhag tanseilio ffyrdd Lloegr o fyw. Oherwydd y deffroad amlwg ymysg awdurdodau'r Eglwys Wladol ynglyn â chrefydd ac addysg o gylch y flwyddyn 1700, gwellhaodd pethau yn ddirfawr. Nid oes angen ymdroi, bellach, i sôn am yr SPG na'r SPCK, gan i Thomas Shankland ddadanhuddo wmbredd ar eu hanes mewn cyfres o ysgrifau gwerthfawr yn Seren Gomer, o gylch 1902- 05; ac mewn rhifyn o Drafodion Cymdeithas y Cymmrodorion tua'r un adeg. Erbyn hyn, ceir traethawd M.A. Mary Clement mewn preint, o dan y teitl, Correspondence and Minutes of the S.P.C.K. relating to Wales, 1699-1740, a thraethodd fy nghyfaill Alun Thomas, rheithor Llangollen, yn rhagorol ar gyfraniad yr SPG yn America, mewn rhai o Drafodion Cymdeithasau Hanes yr Unol Daleithiau. Cefais innau gyfle euraid i gyfeirio at y mud- iad hwn yn America yn Y Cyfarwyddwr, pan oedd o dan olygiaeth Dyfnallt. Digwydd fod gennyf yn fy meddiant lyfr prin a gwerthfawr, a rydd oleuni ar daeniad egwyddorion Eglwys Loegr yn America, o ddechreuad ein trefedigaethau hyd 1728, a sonia am fudiad nad anturiodd yr un Cymro, na dysgedig nac annysgedig, grybwyH amdano yn ein llyfrau hanes. Ei deitl yw: