Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AN HISTORICAL ACCOUNT of the INCORPORATED SOCIETY For the Propagation of the Gospel Foreign Parts containing their Foundation, Proceedings, and the Suc- cess of their Missionaries in the British Colonies to the Year 1728 By David Humphreys, D. D. Secretary to the Honourable Society London.. Printed.. Joseph Downing. M.DCC.XXX Ceir ynddo gyfraniad o wybodaeth werthfawr "o lygad y ffynnon" megis, yn cynnwys yn agos i 400 t. Yr oedd yr wybod- aeth a geffid yn y gyfrol hon yn ddieithr hollol i brif haneswyr Cymru, i haneswyr enwadau crefyddol bondigrybwyll, a hyd yn oed i brif haneswyr Eglwys Loegr yng Nghymru. Yr oedd y bobl a oedd ynglyn â'r SPG a'r SPCK cyn eiddgared am efengyleiddio'r taleithiau Prydeinig yn America, ac Ynysoedd India'r Gorllewin, ag yr oeddynt am efengyleiddio Cymru. Prin y cyffyrddodd Shankland â'r Mudiad yn America, er ei fod yn brif awdurdod ein gwlad ar hanes Eglwys y Bedyddwyr a sefydlwyd gan John Myles yn America tua 40 mlynedd cyn hyn. Cymro o waed a aned yn Llundain oedd David Humphreys, a addysgwyd yn Ysgol y Merchants Taylors ac yn Ysbyty Crist, Caergrawnt. Ganed ef yn 1690, a bu farw yn 1740. Cymrawd o'i Goleg; B.A. 1712; M.A. 1715; B.D. 1725; D.D. 1728. Cynorth- wyodd Bentley yng Ngholeg y Drindod, a bu'n Ysgrifennydd i'r SPG o'r flwyddyn 1716 hyd 1740. Cyforiog yw ei gyfrol o hanes y Cymry ynglyn â'r Mudiad yn America o tua 1690 i 1728. Rhoddodd restr hirfaith o enwau esgobion ac offeiriaid a hyrwyddodd y Gymdeithas, ac yn eu plith liaws o Gymry yng Nghymru a Lloegr, gwyr fel Richard