Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

it would seem an immense advantage for cultural and social in- tercourse that the rise of Christianity should, at least, be gen- erally understood as simply an episode of human history rather than propagated as dogma and divine reuelation". Y mae Allegro yntau yn gwyro i'r un cyfeiriad. "Cydnebydd fod yr Iesu, wrth gwrs, yn gymeriad llawer mwy byw i ni nag yw'r Athro Cyfiawn, ond y rheswm am hynny, yn ei farn ef, yw fod gennym gronicl mor wych o fywyd yr Iesu yn yr Efengylau, a gofidia am nad oes cronicl felly o fywyd yr Athro Cyfiawn". Y mae ail ran y llyfr yn cychwyn gyda Pennod iv, ac o hyn ymlaen ceir beirniadaeth yr awdur ar y safbwyntiau eithafol. Gofynnir tri chwestiwn: "A oedd yr Athro Cyfiawn mor syfrdan- 01 debyg i'r Arglwydd Iesu ag y dywedir ei fod? A oedd defodau sect Qumrân a defodau'r Eglwys Fore cyn debyced i'w gilydd ag y mynnir eu bod? Ac a ydyw dysgeidiaeth foesol ac athraw- iaethol y sgroliau mor aruchel â dysgeidiaeth y Testament Newydd?" Credwn i'r awdur wynebu'r cwestiynau hyn yn onest a chyda mesur mawr o gamp a llwyddiant. Nid yw gofod yn caniatáu manylu ar y penodau cynhwysfawr hyn, eithr cym- hellwn bawb sydd yn cael eu blino gan broblem perthynas sect Qumrân â'r Eglwys Fore droi at lyfr T. Ellis Jones. "Nid y sgroliau a greodd y broblem", meddai ef, "yr oedd hi gyda ni ymhell cyn eu darganfod hwy, ac nid ydynt chwaith yn ych- wanegu dim at y broblem. Y mae'n amheus iawn a oes dim yn llenyddiaeth Qumrân sydd yn debyg i'r hyn a geir yn y Testa- ment Newydd nas ceir mewn mannau eraill". Y mae'r Hen Destament yn gefndir cyffredin i'r ddau, a hefyd dylid cofio'r corff helaeth o lenyddiaeth a berthyn i'r cyfnod rhwng y ddau Destament, o'r hwn cyfran fechan iawn yw llenyddiaeth Sect y Sgroliau. Ymddengys rhai o'r awduron eithafol yn rhyfedd o anghofus o'r ffaith gyfarwydd hon. O'i gymharu â'r gwahan- iaeth rhwng Sect Qumrân a'r Eglwys Fore y mae'r tebygrwydd yn ychydig. Hyd yn oed pan ddeuwn ar draws yr un termau y mae'r ystyr yn gwbl wahanol. "Y gwahaniaeth sylfaenol yw Crist ei Hun, yn ei berson a'i waith. Ef a esyd arbenigrwydd ar grefydd y Testament Newydd". "Ni ddylai'r Cristion ofni cyd- nabod y ceir yn y sgroliau fel yn yr Hen Destament ar- loesi'r ffordd at Grist Dyfod i'r byd i gyflawni a wnaeth Crist cyflawni pob datguddiad rhannol a roddodd Duw erioed". Ar ei gorau, rhannol iawn oedd y weledigaeth a ddaeth i Gyfamodwyr Qumrân.