Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRU AC ADDYSG AMERICA-V GAN BOB OWEN RHWNG 1795 a 1860 ymfudodd tua 40 mil o Gymry gwaed coch cyfa i UDA, a sefydlasant ymron 011 mewn sefydliad- au hollol Gymreig, gan grefydda, pregethu, seiadu, yn gwbl fel y byddent yng Nghymru; ac er eu bod yn ddinasyddion America, cynhalient eu Cyfarfodydd Misol, Cymdeithasfaoedd, Cymanfeydd Cyffredinol, Synodau, Undebau, a Chymanfaoedd, yn union ar yr un llinellau ag yng Nghymru. Enwent eu capel- au yn ôl y dulliau Iddewig, megis Hebron, Bethesda, &:c., ar wahân i ychydig enghreifftiau Cymreig, fel Penycaerau, Penv- graig, Enlli, &c. Daethai Cymanfaoedd Canu yn gyffredin, a chynhelid Eisteddfod Flynyddol ymhob sefydliad. Yn aml, cy- hoeddid y cynhyrchion llenyddol a cherddorol, rhai ohonynt yn gyfrolau trwchus, yn cynnwys traethodau galluog ar bynciau fel hanes y dalaith neu'r sefydliad lle y cynhelid yr Eisteddfod. Ceid llyfrau ar Hanes Cymry Colorado; Hanes Cymry Utica a'r cylchoedd; Welsh People of Califomia, &c. Codwyd llawer gwasg Gymreig, a chyhoeddwyd 75 o wahanol newyddiad- uron a chylchgronau Cymreig. Cychwynnwyd Cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd, Cyfaill o'r Hen Wlad, yn 1838, a bu fyw hyd 1933. Cyhoeddodd yr Annibynwyr Cenhadwr Ameri- canaidd yn 1840, a bu fyw hyd 1901. Bu'r Bedyddwyr yn selog iawn ynglyn â chylchgronau, megis Y Beread, 1842-44; Y Gwyl- iedydd, 1843-44; Y Seren Orllewinol, 1844-67; Y Wasg, 1868; Yr Afon, tua 1870; Y Glorian, 1872-74; Y Wawr Americanaidd. 1876-96; The Dawn, 1876-90; The Daylight, 1889. Methu gennyf â chanfod cylchgronau gan yr Eglwyswyr na'r Method- istiaid Wesleaidd. Yr oedd y Methodistiaid yn llawer mwy sel- og na'r enwadau eraill ynglyn â chylchgronau i'r Ysgol Sul, megis Y Lamp, 1897-1903; Yr Ysgol, 1869-70; ond ceid rhai anenwadol, megis Trysorfa yr Ysgol Sabbothol (newyddiadur 8 t., 4 t. yn Gymraeg a 4 t. yn Saesneg); a Blodau'r Oes, 1872-75. Cyhoeddid cylchgronau cerddorol, megis Anthemydd Solffa, 1868-70; Llais y Gân, 1883; Y Detholydd Cerddorol, 1867-68; Y Côr Drysor, &c. Ymdrechodd y Cymry, ond odid yn fwy nag un genedl, i ryddhau'r caethion, a chyhoeddwyd cylchgronau i hyrwyddo hynny, megis Y Dyngarwr, 1843-44; Y Detholydd, 1850-52; &:c.