Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dr R. Everett, brodor o Drefnant, Sir y Fflint, oedd eu golyg- ydd, a brwdfrydiced ydoedd fel yr anfonodd gopi yn rhodd i bob pregethwr Cymraeg yn yr Undeb. Hefyd, cafwyd Cyfaill yr Undeb, 1860; Y Gwron Demo- crataidd, 1856-57 newyddiadur a barodd anghydfod politic- aidd yn y wasg Gymraeg ar ei ymddangosiad cyntaf, a phoeth- lyd fu'r ddadl rhyngddo a'r Drych. Cyhuddai'r Gwron y Drych o fod yn caniatáu cadw caethweision. Perchen.Y Gwron oedd Thomas Jones, Efrog Newydd, awdur The History of New York during the Revolutionary War, 2 gyfrol, 1879. Waeth heb sôn am Y Drych, newyddiadur Cymraeg a gychwynnwyd yn 1851, ac sydd yn dal yn fyw heddiw, ond ei fod erbyn hyn yn fisol, yn líe yn wythnosol, a (gwaetha'r modd) bron i gyd yn Saesneg. Cyhoeddwyd y newyddiadur Cymraeg Americanaidd cyntaf o dan yr enw, Cymro America, yn 1832, ac yr oedd i hwnnw ddosran, The American Cambrian. Pythefnoso ydoedd, ac ni bu fyw ond am ryw flwyddyn, canys ataliwyd ef gan y Colera. Nid oes gennym ni y syniad lleiaf am fel yr ymlynodd y Cymry yn America wrth yr Ysgol Sul. Cyhoeddwyd ystadegau manwl o nifer yr ysgolorion, ynghyda'r "llafur". Bu'r Cymry'n fwy selog na'r un genedl yn hyrwyddo'r Ysgol Sul, a chanlyn- iad naturiol hynny oedd eu bod bob amser yn dyheu am ddyfod yn ddinasyddion Americanaidd, a dod yn gefn i bopeth pleidiol i ryddid ac addysg. Heblaw eu bod yn cefnogi'r Gym- raeg yn y Taleithiau, ac yn cadw eu crefydd yn ôl eu cynefin ddulliau yng Nghymru, yr oedd llawer ohonynt yn eiddgar am sefydlu Ysgolion Sul ymysg yr Americaniaid o bob cenedl a lliw, ac un o'r hyrwyddwyr pennaf a mwyaf brwdfrydig oedd y gwerinwr a'r dyngarwr Benjamin W. Chidlaw (1811-1892), a aned yn y Bala, Meirionnydd, ac a ymfudodd yno gyda'i rieni yn 1821. Bu'n weinidog defnyddiol yn Paddy's Run, Ohio, o 1835 hyd 1844, ac ar eglwys Bresbyteraidd Cleves a'r cylch. Torrodd ei gysylltiad â'r eglwys a'r ardal honno, er mwyn cysegru ei holl amser i fod yn Genhadwr cyntaf yr American Sunday School Union. Dilynodd yr orchwyl honno yn y Gwers- ylloedd Milwrol, South Ohio, lle yr addysgid y milwyr, tua 1861. Yn ystod tymor ei wasanaeth o 56 mlynedd, llwyddodd i sefydlu cymaint o Ysgolion Sul fel y cyfrifid ef o 1855 ymlaen yn hyrwyddwr pennaf ysgolion o'r fath. Sefydlodd filoedd ohlonynt. Galwai'r Cymry ef yn "Thomas Charles yr UDA".