Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prif fyrdwn ei drafodaeth yw ystyr a chysylltiadau enwau fel Annwn, Caer Siddi, Pair Pen Annwfn, Carchar Gwair, Caer Goludd, etc. I'r arbenigwr y mae diddordeb llawer o gynnwys y llyfr. Felly, er enghraifft, y penodau ar Morgan la Fée, ar y Frwydr ger y Rhyd yn y Didot Perceual, ar yr elfennau Cymreig yn Sir Gawain and the Green Knight ac ar gysylltiadau Gwyddelig Chwedl y Greal. Trwy gydol y.gyfrol dengys yr awdur wybodaeth enfawr am len- yddiaeth chwedlonol Ewrop yn yr Oesoedd Canol ac y mae ei waith yn bwysig i haneswyr llenyddol yn Lloegr a Ffrainc a'r Al- maen a'r Eidal yn ogystal ag yng Nghymru ac Iwerddon. Weith- iau, bid sicr, ymddengys sail ei ddamcaniaethau yn denau ac fe duedda i gysylltu neu uniaethu dau berson â'i gilydd yn unig ar sail tebygrwydd damweiniol mewn enwau. Eithr nid oes yma dudalen heb ei ddiddordeb nac erthygl heb fod ynddi gyfraniad sylweddol a gwerthfawr. PENILLION TELYN Gan T. LLEW JONES Fe ddaw'r haf ac fe ddaw'r hydre', Fe ddaw'r yd yn ddiogel adre', Fe ddaw'r gneuen fach yn wisgi, Ni ddaw 'nghariad i briodi. Wrth ganu'n iach i'r Esgair Wen A gado'r llawen gwmni, Nid y pecyn dan fy mraich Yw'r baich sy'n flinder imi, Ac ni wyr ond merch 'i mam Paham rwy'n symud 'leni Mi fûm ofalus lawer tro Cyn mentro ar fy siwrne Fod gen i sgrepan lawn a chod Rhag bod yn faich ar ffrindie. Ond, gyfeillion mwyn, pan af I'r bellaf o bob siwrne, Mi af i'r daith heb god i'm rhan Na sgrepan ar f'ysgwydde.