Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oriaeth a'r celfyddydau cain yng Ngholeg Emporia, Kansas; un D. O. Jones, a fu'n oruchwyliwr cerdd ar ysgolion cyhoeddus Empona; Eliza Francis, a'i gwreiddiau yn ardal Llan-bryn-Mair, a oedd yr athrawes gerddoriaeth gyntaf yr ysgol gyhoeddus yn Shandon, Ohio, a'r cylchoedd eraill, o 1891 hyd 1898, ac a ddil- ynwyd gan W. H. Howell; lohn Owen (Glan Marchlyn), a Jennie Owen, ei ferch; E. J. Lewis, Utica; a W. Aubrey Powel, a fu'n gynhysgaeth i gerddoriaeth Wisconsin; a D. Lloyd Davies (Dewi Glan Peryddon), a oedd ar dân ynglyn â chynnal Cylchwyliau Cerddorol yn yr un dalaith. Yn nhalaith Wisconsin, bu John P. Jones o Chicago yn gefn i Seindyrf a Cherddorfâu yn ogystal â chanu corawl. Yn 1861 y sefydlwyd yr American Musical Society, a J. P. Jones yn arwein- ydd. Bu David Goodwin, o Sir Drefaldwyn, yn hynod ei sêl dros ddysgu cerddoriaeth drwy dalaith Wisconsin. Furfiwyd Undeb Cymry Waukesha, ac aeth David Jenkins, Aberystwyth, o bwrpas í arwain yn un o'i gyfarfodydd. Bu Almer C. Davies yn ddygn gydag Ysgolion Canu, a dawn neilltuol ganddo i dynnu pobl allan i ganu. Haedda cyfraniad Cymry at Addysg Feddygol America ein sylw hefyd. Yn 1767, yr oedd yr Anrhyd. John Jones yn Broffesor mewn llawfeddygacth yng Nholeg Meddygol Byddin y Chwyl- droad; efô oedd meddyg teuluaidd Benjamin Franklin a George Washington. Dau frawd, John a William B. Davies, o Sir Drefaldwyn, oedd prif feddygon Cincinnati, Ohio. Yr oedd y ddau ar Faculty Coleg Meddygol Miami, sydd erbyn hyn yn rhan o Goleg Medd- ygol Prifysgol Cincinnati, H. Ll. Williams, brodor o Sir Gaer- narfon, a drwyddedwyd yng Ngholeg Meddygol Syracuse a Chym- deithas Feddygol Oneida, a benodwyd yn Gofnodydd Cymdeithas Feddygol Talaith Efrog Newydd. Bu'n gymwynaswr mawr i Gymry Cymraeg UDA drwy ei lyfr, Y Meddyg Teuluaidd, a gyhoeddwyd yn Utica, yn 1851, 352 tudalen, mewn Cymraeg rhwydd. John Davies, o rieni Cymreig, a fu'n offeryn i sefydlu Coleg Meddygol Miami yn 1852, a bu'n broffesor ynddi am flynyddoedd lawer, ac yr oedd yn un o'i hymddiriedolwyr hyd ddydd ei farw. E. James, meddyg milwrol ymhlith yr Indiaid Cochion Ojiburas yn 1832 a gyfieithodd y Testament Newydd i'w hiaith, a phara- tôdd lyfr sbelio i'w hysgolion. Bu James T. Edwards yn Llywydd Seminarî" Greenwich a Sefydliad Meddygol Rhode Island.