Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. XVI GWANWYN 1960 Rhif 1 NODIADAU'R GOLYGYDD YTRO o'r blaen, mi geisiais restru rhai (nid y cwbl) o'r achos- ion sydd yn milwrio heddiw yn erbyn parhad yr iaith Gym- raeg. Mi geisiaf y tro hwn restru rhai o'r prif gyfryngau sydd yn gweithio o'i phlaid. 1. Nid oes dim byd newydd mewn dweud mai'r Ysgol Sul a gadwodd yr iaith Gymraeg yn fyw yn y ganrif o'r blaen, pan oedd yr ysgolion pob dydd yn cyfrannu eu haddysg i gyd yn Saesneg, a hyd yn oed yn gwarafun i'r plant siarad yr un iaith ond honno er mwyn perffeithio'u gwybodaeth ohoni. Erbyn hyn, y mae'r Ysgol Sul wedi colli llawer o'i gafael ar y plant, a chyf- ryngau gwell i ddysgu iaith yn cymryd ei lIe, ac fe ddysgir Cym- raeg yn awr yn yr ysgolion pob dydd. Ond deil yr eglwysi Cymraeg o hyd yn brif gaerau'r iaith, yn enwedig yn yr ardal- oedd lle y mae'r llanw Saesneg yn bygwth ei gorlifo. 2. Yr wyf yn argyhoeddedig mai'r prif allu a fu'n gweithio o'r newydd dros yr iaith Gymraeg yn hanner cyntaf y ganrif hon oedd colegau'r Brifysgol a'r colegau hyfforddi. Er cryfed ydyw'r iaith Saesneg yn llysoedd y Brifysgol a'r colegau, bu'r adrannau Cymraeg ynddynt yn foddion i drawsnewid ysgolheictod Cymraeg, ac i ennyn diddordeb a brwdfrydedd dros yr iaith ymhlith y myfyrwyr ieuainc. Gan ddechrau gyda John Morris-Jones, ac wedyn Ifor Williams, W. J. Gruffydd, Henry Lewis a T. H. Parry-Williams, a'r athrawon ieuengach a'u dilynodd, bu'r coleg- au'n meithrin to ar ôl to o athrawon a aeth allan i ysgolion Cymru yn llawn sêl dros ddysgu i'r plant garu'r iaith a'i diwyll- iant. Dyna'r ffynnon y tarddodd yr Adfywiad Cymraeg ohoni. 3. Un o ganlyniadau'r sêl newydd hon dros yr iaith Gymraeg ydoedd sefydlu Urdd Gobaith Cymru gan Ifan ab Owen Edwards -yntau'n adeiladu ar y sylfeini a osododd ei dad yn Cymru'r Plant, a'r llyfrau a gyhoeddodd, a'i waith yn Brif Arolygwr Ysgolion Cymru. Y mae'n amheus a fuasai'r Urdd wedi llwyddo cystal oni bai fod cymaint o athrawon a hyfforddwyd yn adrannau Cymraeg y colegau wedi rhoddi eu cefnogaeth iddi ymhob parth